Eco-Schools
A A A

Gwnewch Wahaniaeth Mawr gyda'r Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion!

Ymunwch ag ymgyrch gweithredu amgylcheddol fwyaf y DU ac ysbrydolwch eich ysgol i ddod yn arwyr difa sbwriel! Mae’r Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am gyfrifoldeb amgylcheddol, gweithredu yn eu cymuned, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

 

Beth yw Eco-Sgolion?

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu â 19.5miliwn o blant ar draws 70 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysgol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Beth yw Eco-Sgolion?

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu â 19.5miliwn o blant ar draws 70 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysgol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Mae wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

A group of children holding rubbish bags and litter pickers along a beach path

Sut mae'n gweithio?

Mwy am sut mae'n gweithio

Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio trwy saith cam. Unwaith y mae ysgol wedi sefydlu’r broses hon ac wedi casglu tystiolaeth o’u cynnydd, gallant wneud cais am Wobr Eco-Sgolion – achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Cam 1:

Ffurfio Eco-Bwyllgor

Cam 2:

Cynnal adolygiad amgylcheddol

Cam 3:

Datblygu cynllun gweithredu

Cam 4:

Monitro a gwerthuso

Cam 5:

Hysbysu a chynnwys

Cam 6:

Creu Eco-Gôd

Cam 7:

Cysylltu â’r cwricwlwm

Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion

Cymerwch ran yn Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion y Gwanwyn hwn i wella’r amgylchedd ar stepen drws eich ysgol!

Mae Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr, ymgyrch amgylcheddol torfol fwyaf y DU. Yma yng Nghymru, mae hefyd yn rhan o Gwanwyn Glân Cymru.

Rydym yn annog ysgolion i gymryd rhan trwy drefnu digwyddiad glanhau, neu sawl un, unrhyw bryd rhwng 25 Mawrth – 10 Ebrill 2022. Mae cymryd rhan yn hwyl ac yn rhoi boddhad i ddisgyblion a gall gyfrif tuag at eich Gwobr Baner Werdd Eco-Sgolion. Nid oes unrhyw un yn rhy fach i wneud gwahaniaeth mawr.

Eco-Sgolion Adnoddau

Rydym eisiau ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol.

Mae ein hadnoddau di-dâl wedi’u dylunio gan ein tîm addysg arbenigol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd a theuluoedd.

Adnoddau Cynradd

Mae ein hadnoddau ar gyfer ysgolion cynradd wedi’u dylunio i gyflwyno dysgwyr ifanc i rai o’r materion amgylcheddol mwyaf pwysig sy’n wynebu Cymru a’r byd.

Rhagor o wybodaeth
Adnoddau Uwchradd

Mae gennym ystod eang o adnoddau uwchradd sydd wedi’u dylunio i ysbrydoli myfyrwyr i weithredu ac mae pob un o’r adnoddau hyn wedi’u cysylltu â Chwricwlwm Cymru.

Rhagor o wybodaeth
Eco-Sgolion yn y Cartref

Gwaith cartref gwahanol! Creu eco-gartref gyda heriau hwyliog i’r teulu cyfan.

Rhagor o wybodaeth

Ein hysgolion

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Cymerwch ran

Gallwch gymryd rhan mewn ymgyrch, ymuno â gwers am ddim, a dal i fyny â hyfforddiant diweddar.

Gweld pob digwyddiad

Sut gallwn ni helpu?