Amddiffyn Cymru ac ein planed.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phob awdurdod lleol ar draws Cymru ar ein menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Wrth i bawb gydweithio i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planed.

Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o fudiad #CaruCymru.

Dewch o hyd i grwpiau cymunedol leol
Gweithredu cymunedol

Rydym ni’n cefnogi gweithgarwch ar lawr gwlad mewn ffordd cynaliadwy. Ymunwch neu sefydlwch grwpiau cymunedol, defnyddiwch ein hybiau casglu sbwriel a cymerwch rhan mewn ymgyrch.

Dysgu mwy
Polisi ac ymchwil

I wneud gwahaniaeth, mae angen i chi ddeall y materion. Dysgwch am yr ymchwil ddiweddaraf ac arfer da o Gymru a thu hwnt.

Dysgu mwy
Cymorth busnes

Darganfyddwch sut allwch wneud eich busnes yn werdd, cymeryd perchenogaeth o ac gwella eich ardal leol.

Dysgu mwy

Ein partneriaid

Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol yng Nghymru, Adran Newid Ymddygiad Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Ein bwriad yw annog sefydliadau ar draws y wlad i rannu eu gwybodaeth a’u hadnoddau i ddwyn mudiad Caru Cymru yn ei flaen.

Ein Partneriaid

Cyllidwyd Caru Cymru drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.