Caru Cymru
A A A

Beth yw Ardal Ddi-Sbwriel?

Fel rhan o Caru Cymru, mae’n bleser gennym lansio Ardaloedd Di-Sbwriel – cynllun newydd sbon wedi ei ddylunio i annog busnesau i gadw eu cymunedau’n ddi-sbwriel.

Rydym yn estyn allan i fusnesau ar draws Cymru i fabwysiadu ardaloedd penodol i’w glanhau yn rheolaidd.  Y gobaith yw y bydd busnesau o bob math a maint yn cymryd rhan, o siopau pentref a swyddfeydd preifat i archfarchnadoedd ac ystadau diwydiannol.

Beth yw’r buddion?

  • Mae mabwysiadu Ardal Ddi-Sbwriel yn arwydd i’ch cwsmeriaid eich bod yn fusnes sydd yn cymryd problem sbwriel o ddifrif. Byddwn yn darparu’r adnoddau i’ch helpu i gyhoeddi eich statws Ardal Ddi-Sbwriel.
  • Gall codi sbwriel drawsnewid ardal yn gyflym, o un sydd yn edrych fel pe bai wedi ei hesgeuluso i un y gall pobl ymfalchïo ynddi.
  • Mae wedi ei brofi bod rhoi cyfle i staff wirfoddoli yn gwella cynhyrchiant, morâl a chyfraddau cadw.
  • Mae cymryd rhan mewn prosiectau y tu allan i’r swyddfa yn rhoi cyfle i dimau gysylltu â’i gilydd ar lefel gwbl wahanol.

Sut i gymryd rhan

Mae cymryd rhan yn hawdd iawn.

1. Cofrestrwch eich diddordeb
2. Trefnwch gyfarfod gyda swyddog lleol Cadwch Gymru’n Daclus
3. Cyhoeddwch eich Ardal Ddi-sbwriel
4. Codwch sbwriel!

Ardaloedd Di-Sbwriel: Datganiadau o Ddiddordeb Hyd Yma

*Meysydd gofynnol
Beth rydyn ni'n ei wneud gyda’ch gwybodaeth