Rydym yn darparu’r holl offer, y cymorth a’r yswiriant sydd ei angen ar wirfoddolwyr i lanhau’r amgylchedd ar eu stepen drws yn ddiogel
Mae Arwr Sbwriel yn rhywun sydd yn gwirfoddoli’n weithredol i ofalu am eu hamgylchedd lleol trwy godi sbwriel a lleihau gwastraff.
Mae ein byddin gynyddol o Arwyr Sbwriel wedi dangos cefnogaeth anhygoel yn gofalu am ein hamgylchedd ar ein stepen drws.
Aethant y tu hwnt i’r disgwyliadau i helpu eu hardal leol trwy gynnal 7,100 o ddigwyddiadau glanhau a chasglu 13,550 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu yn y flwyddyn ddiwethaf.
A hoffech chi wneud gwahaniaeth hefyd? Ymunwch â’n byddin o Arwyr!
Mae gan ein Arwyr Sbwriel i gyd un peth yn gyffredin – maent yn angerddol am eu cymuned ac eisiau gwneud gwahaniaeth.
Rydym yn darparu’r holl offer, y cymorth a’r yswiriant sydd ei angen ar wirfoddolwyr i lanhau’r amgylchedd ar eu stepen drws yn ddiogel.
Yr unig beth yr ydym yn ei ofyn yw bod Arwyr Sbwriel yn cadw mewn cysylltiad, gan gofnodi’r hyn y maent yn ei gasglu gan ddefnyddio ein system Epicollect5 ac yn dilyn ein canllaw diogelwch.
Os hoffech ymuno â’n byddin o Arwyr Sbwriel, cysylltwch â’ch swyddog prosiect lleol.
Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Hoffem ddiolch hefyd i’n cyfeillion yn Helping Hand Environmental am wneud hyn yn bosibl.