Nod Caru Cymru yw dileu sbwriel a gwastraff. I gyflawni hyn, mae angen i fusnesau ar draws Cymru ymuno â’r mudiad.
Rydym yn annog busnesau a sefydliadau i addo ymrwymo i’r pedwar nod: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu ac Atgyweirio.
Rydym eisiau ei wneud mor hawdd â phosibl i’ch busnes wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Cael mynediad at wybodaeth, cyngor ac adnoddau i’ch helpu i greu newid.
Mae llawer o fanteision cadarnhaol i fynd allan a glanhau ardal, gan gynnwys meithrin tîm a gwella lles eich staff. Os yw unigolion neu grwpiau bach yn dymuno gwneud eu rhan, gallan nhw fenthyg offer a chael cyngor yn un o’n community hubs sydd wedi’u sefydlu yn eich ardal.
Os yw eich cwmni’n barod i ymrwymo i brynu offer casglu sbwriel, rhoi amser i staff gynnal arolwg sbwriel a gwneud gwaith glanhau misol, efallai y gallech chi fod yn un o’n busnesau ‘Ardaloedd Di-Sbwriel’. Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i chi ac yn hyrwyddo eich cyfraniad.
Rydym yn helpu sefydliadau ac ysgolion ar draws Cymru i gael gwared or offer TG a thrydanol diangen.
Helpwch i leihau faint o wastraff sydd yn cael ei greu gan eich busnes. Gwnewch y newid cynaliadwy nawr.
Eisiau cadw eich ardal leol yn lân ac yn daclus? Gallwch fenthyg cyfarpar am ddim yn cynnwys codwyr sbwriel, cylchynnau, siacedi llachar, a bagiau bin.
Gwnewch addewid y bydd eich busnes yn mabwysiadu Ardal Ddi-sbwriel a darparu ardal sydd yn cael gofal a chariad ar gyfer eich cymuned.