Caru Cymru
A A A

Rydym yn helpu busnesau, ysgolion a sefydliadau eraill i waredu eu cyfarpar TG a thrydanol diangen yn gyfrifol.

Rydym yn gweithio gyda A&LH Environment i sicrhau bod eitemau, lle y bo’n bosibl, yn cael eu hailgylchu ac nad ydynt yn mynd i safleoedd tirlenwi. Gyda’n gilydd, rydym yn darparu gwasanaeth ailgylchu trydanol diogel, cadarn a fforddiadwy.

Mae’n wych i’ch Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ac yn well byth, trwy ddefnyddio ein gwasanaeth, rydych yn helpu i gefnogi Cadwch Gymru’n Daclus a mudiad Caru Cymru.

Beth gellir ei gasglu?

• Llwybryddion
• Gweinyddion
• Cyfrifiaduron pen desg
• Llechi
• Gliniaduron
• Monitorau
• Uwchdaflunwyr
• Setiau teledu
• Nwyddau gwyn
• Bylbiau fflworoleuol
• Rhywfaint o gyfarpar meddygol

Ni allwn gasglu…

• Dodrefn
• Batris a geir yn eich cartref
• Cetris peiriannau argraffu

Eitem ddim wedi ei rhestru? Cysylltwch â’r tîm trwy ebostio recycling@keepwalestidy.cymru

Cwestiynau Cyffredin Arall

Beth yw’r gost?
Sut gallaf drefnu casgliad?

Mae ffyrdd eraill y gall eich busnes gefnogi #CaruCymru

Hybiau Codi Sbwriel

Benthycwch offer er mwyn cadw eich ardal leol yn daclus.

Dysgu mwy

Ymunwch â chwyldro ‘Cwpanau Taclus’

Helpwch i leihau faint o wastraff y mae eich busnes yn ei greu.

Dysgu mwy