Rydym eisiau datblygu rhwydwaith o fusnesau ar hyd a lled Cymru sydd wedi ymrwymo i fudiad Caru Cymru a dathlu’r camau cadarnhaol y maent yn eu cymryd i ddileu sbwriel a gwastraff.
Rydym yn annog busnesau a sefydliadau i addo ymrwymo i’r pedwar nod: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu ac Atgyweirio.
Rhowch wybod i ni pa gamau yr ydych yn eu cymryd trwy lenwi’r ffurflen addewid syml isod. Byddwn wedyn yn darparu deunyddiau hyrwyddo i’ch helpu i roi cyhoeddusrwydd i’ch cyfranogiad gyda Cadwch Gymru’n Daclus ac i ysbrydoli eraill i ymuno â mudiad Caru Cymru.
Gwyddom fod llawer o gyngor ar gael i fusnesau sydd eisiau lleihau eu gwastraff. Mae rhywfaint o’r cyngor yma’n wych; rhwyfaint yn llai defnyddiol ac yn gallu camarwain. Deunyddiau y gellir eu compostio, eitemau bioddiraddiadwy, seilwaith ailgylchu, economi gylchol – mae gwneud y peth iawn yn gallu llethu! Ansicr ble i ddechrau?
Bydd cynnal archwiliad gwastraff yn eich helpu i roi blaenoriaeth i ardaloedd neu eitemau y mae angen i chi ganolbwyntio arnynt a rhoi llinell sylfaen ar gyfer mesur eich llwyddiant.
Gallwch wedyn ddatblygu cynllun gweithredu SMART i helpu eich staff i gyd i ganolbwyntio ar nifer realistig o weithgareddau a chanfod sut i fonitro cynnydd.
Angen ysbrydoliaeth? Mae’r syniadau a restrir isod yn amrywio o enillion cyflym i newidiadau hirdymor.
Llenwch y ffurflen isod ac fe roddwn ddeunyddiau cyhoeddusrwydd i chi i’ch helpu i roi’r gair ar led ymysg eich staff, cleientiaid a’ch cwsmeriaid.
Mesurwch eich cynnydd yn rheolaidd diweddarwch pawb. Pa bynnag gamau yr ydych yn eu cymryd, peidiwch anghofio rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CaruCymru
Enw cyntaf*
Cyfenw*
Cyfeiriad ebost*
Enw’r busnes*
Cyfeiriad y busnes*
Awdurdod Lleol*
Ydych chi wedi cwblhau archwiliad gwastraff?
Ydych chi wedi cwblhau cynllun gweithredu ar gyfer lleihau gwastraff?
Pa gamau ydych chi eisoes yn eu cymryd:
Pa gamau newydd ydych chi’n ymrwymo iddynt?