Rydym eisiau ymuno â busnesau ar draws y wlad i fynd i’r afael â’n diwylliant ‘tafladwy’, ac annog y rheiny sydd yn hoffi te a choffi i newid o gwpanau untro.
Mae ‘Cwpanau taclus’ y gellir eu hailddefnyddio yn offeryn marchnata rhagorol ac yn arwydd clir o’ch ymrwymiad i’r amgylchedd ac i gynaliadwyedd.
Fe wnawn ni ofalu am y logisteg a gweithio gyda chi er mwyn sicrhau bod ‘Cwpanau taclus’ yn adlewyrchu eich brand. Gallwn ddod o hyd i ystod o feintiau a deunyddiau – yn cynnwys cwpanau o fambŵ organig neu wm cnoi wedi ei ailgylchu hyd yn oed!
Byddwn hefyd yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiad lansio ‘Cwpanau taclus’, gan helpu i hybu eich proffil yn yr ardal leol.
Rydym yn gofyn am gyfraniad o £1 y cwpan a ffi weinyddol fach yn unig. Bydd yr arian a godir yn helpu i gefnogi ymdrechion diflino grwpiau a gwirfoddolwyr ledled Cymru sydd yn ceisio gwella eu hamgylchedd lleol.
Os ydych yn berchennog busnes gyda diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â recycling@keepwalestidy.cymru
Rydym yn helpu sefydliadau ac ysgolion ar draws Cymru i gael gwared ar offer TG a thrydanol.
Benthycwch offer er mwyn cadw eich ardal leol yn daclus.