Trwy gynnal Hyb, rydych yn helpu i wneud eich cymuned yn lle glanach, mwy diogel i fyw, gweithio a chwarae.
I’ch helpu i ddathlu eich gwaith anhygoel, rydym wedi creu deunyddiau hyrwyddo defnyddiol, ynghyd ag awgrymiadau a syniadau defnyddiol. Cliciwch ar y penawdau isod.
Wrth gwrs, os oes angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch â’n Tîm Marchnata a Chyfathrebu. Byddem wrth ein bodd hefyd yn clywed eich awgrymiadau ar gyfer deunyddiau eraill y credwch allai fod yn ddefnyddiol.
Rydym yn hyrwyddo Hybiau Codi Sbwriel yn rheolaidd ar y cyfryngau, ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus a’r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn bob amser yn cyfeirio pobl i’n map ar-lein sydd yn dangos yr oriau agor a’r manylion cyswllt ar gyfer ein holl Hybiau Codi Sbwriel.
Mae’n hanfodol bod y wybodaeth yma’n cael ei diweddaru, felly cofiwch sicrhau eich bod yn edrych ar y manylion yn rheolaidd a rhowch wybod i ni cyn gynted a phosibl os oes unrhyw newidiadau.
E-bostiwch ein Tîm Data, sy’n gyfrifol am ein holl fapiau ar-lein yn data@keepwalestidy.cymru
Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho detholiad o bosteri i’w harddangos o amgylch eich Hyb.
Mae gennym hefyd nifer gyfyngedig o ddeunydd wedi eu hargraffu sy’n dal y llygaid, yn cynnwys posteri sy’n gwrthsefyll dŵr a baneri ar gyfer y tu allan i’ch Hyb, a phosteri cerdyn ac arwyddion i’w harddangos y tu mewn i’ch adeilad. I gael gafael ar y rhain, e-bostiwch comms@keepwalestidy.cymru
A wyddoch chi fod degau o filoedd o negeseuon y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hanfon bob eiliad? Gall hyn ei wneud hi’n anodd sefyll allan. Dyma rai awgrymiadau i sicrhau bod pobl yn aros ac yn clicio ar eich negeseuon.
Byddwch yn weledol. Mae negeseuon sy’n cynnwys lluniau a fideos bob amser yn perfformio’n well na’r rhai hebddynt. Gall hyd yn oed pethau syml fel grwpiau cyn ac ar ôl fod yn effeithiol iawn. Ond peidiwch anghofio bod yn rhaid cael caniatâd cyn rhannu delwedd unrhyw un arall.
Gall graffeg y cyfryngau cymdeithasol dynnu sylw hefyd. Mae gennym amrywiaeth o graffeg y gellir ei olygu i chi ei ddefnyddio – cliciwch ar y dolenni isod.
Hashnodau. Maent yn gweithredu fel labeli, yn grwpio sgyrsiau gyda’i gilydd, sydd yn galluogi pobl i ddod o hyd i gynnwys tebyg. Maent yn fwyaf poblogaidd ar X ac Instagram ac mae hashnodau yn ffordd wych o gysylltu â chynulleidfa ehangach. Peidiwch anghofio defnyddio #CaruCymru ar gyfer holl weithgareddau eich Hyb Codi Sbwriel.
Tagiwch gyfrifon perthnasol. Mae pob sianel ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r opsiwn i dagio cyfrifon eraill yn eich negeseuon. Trwy wneud hynny, gallwch gynyddu cyrhaeddiad eich negeseuon trwy gyswllt â dilynwyr y sianeli hynny. Cofiwch dagio Cadwch Gymru’n Daclus a’ch swyddog prosiectu lleol a byddwn yn gwneud ein gorau i rannu eich gweithgareddau.
Emojis. Maent yn ffordd hawdd o gyfleu teimladau. Bydd cynnwys hyd at dri emoji yn helpu i roi personoliaeth i’ch negeseuon.
Dewch i adnabod eich cynulleidfa. Mae pob sianel yn eich galluogi i weld sut mae eich negeseuon yn performio. Trwy edrych yn rheolaidd ar y dadansoddiadau neu’r mewnwelediadau gallwch ddechrau datblygu dealltwriaeth well o bwy yr ydych yn siarad â nhw, pryd maent ar-lein a pha negeseuon y maent yn eu mwynhau fwyaf.
Dysgwch oddi wrth eraill. Dilynwch neu hoffwch Hybiau Codi Sbwriel eraill! Gallwch gael eich ysbrydoli o’u cynnwys ac ymateb i’w negeseuon. Bydd hyn yn helpu gyda’ch dilynwyr eich hun trwy dynnu sylw unigolion â diddordebau tebyg at eich sianeli.
Anogwch eich benthycwyr i gymryd rhan yn postio am eich Hyb. Gallech ofyn am luniau o’ch grŵp, fideos o’r digwyddiad codi sbwriel, neu luniau cyn ac ar ôl hyd yn oed. Bydd yn helpu i ddangos yr Hyb ar waith a dangos i’ch cymuned beth sy’n cael ei gasglu.
Gall ymddangos yn amlwg, ond mae cyfryngau lleol (papurau newydd, gwefannau a sianeli darlledu) eisiau straeon lleol da, neu ongl leol ar stori genedlaethol, yn arbennig â diddordeb dynol. Yn lwcus iawn, mae Hybiau Codi Sbwriel yn darparu cynnwys gwych!
Mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i lansio eich Hyb. Gallech ddathlu cyrraedd carreg filltir arbennig, fel y canfed digwyddiad glanhau; gallech ofyn i fenthycwr rheolaidd am dysteb; neu gallech gael cyhoeddusrwydd ar y cyd â busnes lleol sy’n defnyddio eich Hyb – efallai y byddant yn gallu cynnig cymorth mewn nwyddau hyd yn oed.
I’ch helpu i estyn allan i gyfryngau lleol, rydym wedi creu templedi o ddatganiadau i’r wasg. Mae’r tîm rhagorol yn Working Word, asiantaeth CC yng Nghaerdydd, hefyd wedi llunio canllaw byr ar sut i ysgrifennu datganiadau i’r wasg effeithiol.
Bydd y rhan fwyaf o bapurau newydd lleol yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer newyddiadurwyr ar eu gwefannau neu dudalennau Facebook. Gallwch hefyd gyflwyno straeon yn uniongyrchol ar lawer o safleoedd newyddion ar-lein, fel In Your Area.