Croeso i’n siop un stop ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n gofalu am eu hamgylchedd lleol.
Mae’r hyb wedi ei gynllunio i helpu gwirfoddolwyr i wneud eu gweithgareddau yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Sgroliwch ar draws i archwilio ein hamrywiaeth o ddeunyddiau, gweminarau, dolenni a chyngor defnyddiol.
Os oes gennych ddiddordeb yn rhannu eich profiadau a’ch syniadau gyda gwirfoddolwyr o’r un anian, cofiwch ymuno â grŵp Facebook Cymuned Cadwch Gymru’n Daclus.
Ond yn dechrau arni? Awyddus i gynnal digwyddiadau glanhau rheolaidd neu ofalu am fan gwyrdd yn yr hirdymor? Rydym yn argymell dod yn grŵp cymunedol ffurfiol.
Gallwch gael gafael ar wybodaeth, templedi ac adnoddau eraill i’ch cadw chi a'ch gwirfoddolwyr yn ddiogel.
Gallwch weld yr holl weithgareddau sydd wedi cael eu cofnodi gan wirfoddolwyr angerddol ar ein system gofnodi eCyfrif Cymru.
Gallwch ganfod mwy am ein system adrodd newydd a gwylio ein fideo cam wrth gam.
Rhowch hwb cychwynnol i’ch gweithgareddau codi arian. Syniadau ac ysbrydoliaeth i helpu eich grŵp cymunedol i fynd o nerth i nerth.
Hyrwyddwch eich gweithgareddau, dathlwch eich cyflawniadau a denu gwirfoddolwyr newydd.
Eisiau mynd i’r afael â sbwriel yn eich ardal? Personolwch, lawrlwythwch ac argraffwch ddeunyddiau ymgyrch am ddim.
Daliwch i fyny â’n gweminarau, wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer grwpiau a gwirfoddolwyr cymunedol amgylcheddol yng Nghymru. Eisiau archebu lle ar sesiwn fyw? Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i ganfod beth sy’n dod i fyny.
Helpwch ni i ddatblygu darlun ar draws Cymru o weithgareddau gwirfoddoli.
Rydym yn helpu i roi gwirfoddolwyr brwd mewn cysylltiad â grwpiau lleol. Bydd angen i chi lenwi ffurflen fer i wneud yn siŵr bod eich grŵp wedi ei gynnwys ar ein map.