Caru Cymru
A A A

Cyn dechrau, byddwch yn drefnus

Mae sawl ffordd o ariannu grŵp cymunedol – os byddwch yn chwilio ar-lein, gallai’r syniadau a’r cyfleoedd eich llethu!  

Dyma pam yr ydym yn dod â chyngor hanfodol, enghreifftiau perthnasol, a’r dolenni mwyaf defnyddiol ynghyd ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n gofalu ar ôl eu hamgylcheddau lleol.  

Cyn i chi ddechrau codi arian, bydd angen i chi fod yn drefnus.  

Bydd angen i’ch grŵp cymunedol gael cyfansoddiad – i ddisgrifio’r hyn yr ydych yn ei wneud a sut rydych yn ei wneud – ynghyd â Chadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd o leiaf.  

Pam mae cyfansoddiad yn bwysig? Mae’n galluogi pobl a sefydliadau eraill, yn cynnwys noddwyr posibl, i ddeall eich nodau a’ch amcanion. Mae hefyd yn ofyniad wrth gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac wrth agor cyfrif banc.  

Os hoffech wneud cais am grantiau, bydd angen cyfrif banc grŵp arnoch. Dyma’r math o gyfrif sydd ar gyfer grwpiau cymunedol a chymdeithasau yn benodol, yn hytrach nag unigolion.  

Mae’n syniad da cael mwy nag un llofnodwr ar eich cyfrif (tri yn ddelfrydol) rhag ofn y bydd pobl yn gadael y grŵp neu’n mynd ar wyliau. Mae hefyd yn synhwyrol osgoi cardiau credyd a gorddrafft. 

Lawrlwythwch dempled o gyfansoddiad

Sut i ddod o hyd i gyllid

Y lle gorau i ddechrau yw Cyllido Cymru – y platfform newydd, wedi ei greu gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Gallwch chwilio am gannoedd y gyfleoedd cyllid grant a benthyciadau o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Defnyddiwch yr offeryn chwilio isod i ddod o hyd i arian sydd ar gael. Noder, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllido Cymru i gael y manylion llawn (fe gewch eich cyfeirio i’r wefan).

Meddwl yn lleol

Bydd gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) arbenigwyr ariannu wrth law fydd yn gallu eich cyfeirio i’r lle cywir i rannu cyfleoedd lleol a gallant roi cymorth uniongyrchol. Mae gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru fap rhyngweithiol gwych sy’n eich galluogi i chwilio fesul ardal.

Ewch i wefan Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Gallech hefyd ystyried y siopau a’r busnesau ar eich stepen drws. Gallant eich cefnogi mewn tair ffordd allweddol:

1

Cam 1:

Mae’n ofynnol ar fanwerthwyr yng Nghymru gyfrannu eu helw o’r tâl am fagiau plastig i achosion amgylcheddol. Gallech fynd i siopau lleol a’u hannog i fuddsoddi eu harian bagiau plastig yn eu cymuned leol.

2

Cam 2:

Gallent noddi’r grŵp neu ddigwyddiad. Mwy na thebyg bydd busnesau lleol wrth eu bodd gyda’r hyn yr ydych yn ei wneud a byddant yn helpu os gallant. Efallai y byddant yn cynnig nawdd untro neu barhaus fel y mae timau pêl-droed a rygbi lleol yn cael eu noddi. Mae gan lawer o fanwerthwyr cadwyn broses ymgeisio debyg. Yn yr un modd, mae llawer o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn darparu grantiau bach y gellir eu defnyddio i noddi grwpiau lleol.

3

Cam 3:

Peidiwch anghofio gofyn am gymorth mewn nwyddau – mae hynny’n golygu cyfrannu nwyddau neu wasanaethau yn hytrach nag arian. Mae grwpiau cymunedol wedi elwa ar amrywiaeth o gymorth mewn nwyddau dros y blynyddoedd, yn cynnwys dillad ac offer diogelwch. Mae rhai cwmnïau wedi bod yn falch o gynnig cymorth arbenigol hefyd mewn digwyddiadau ymarferol neu gydag ymholiadau cyfrifo.

Gall busnesau lleol ofyn am rywfaint o gyhoeddusrwydd yn gyfnewid am eu cymorth. Gallai hyn fod mor syml a rhoi sylw iddynt ar y cyfryngau cymdeithasol neu ysgrifennu datganiad i’r wasg. Ewch i’r dudalen hon am arweiniad 

Gallech hefyd wneud y gorau o’r gymuned ehangach. Mae llawer o grwpiau yn creu incwm trwy gynnal digwyddiadau blynyddol fel ffeiriau Nadolig neu dros y Pasg. Gall gwerthu tocynnau raffl, cardiau Nadolig, a hyd yn oed codi ffi aelodaeth fach i gyd helpu. 

Gwylio ein gweminar

Gallwch ddal i fyny a’n gweminar creu incwm, wedi ei gynllunio i ysbrydoli grwpiau cymunedol sydd eisiau rhoi hwb i’w hydrechion codi arian.

Ymunodd FAN Alliance a Grŵp Afonydd Caerdydd â ni, gan rannu ffyrdd llwyddiannus y maent wedi creu incwm trwy eu gweithgareddau.

Cyflwynwyd y weminar hon yn Saesneg, ond mae trawsgrifiad llawn ar gael yn Gymraeg ar gais.

Rhowch eich grwpiau ar y map

Rydym yn helpu i roi gwirfoddolwyr brwd mewn cysylltiad â grwpiau lleol. Bydd angen i chi lenwi ffurflen fer i wneud yn siŵr bod eich grŵp wedi ei gynnwys ar ein map.

Llenwch y ffurflen

Byddwch yn rhan o Gymuned Cadwch Gymru’n Daclus

Ymunwch â’n grŵp Facebook i rannu syniadau ac arfer gorau gydag arwyr gwirfoddoli eraill!

Dewch yn aelod