Ni ellir amcangyfrif grym cyhoeddusrwydd yn rhy isel. Mae’n bwysig i forâl eich grŵp, nid ydych byth yn gwybod pwy allai fod yn gwrando, yn darllen, yn gwylio. Gallai hyn fod yn wirfoddolwyr, noddwyr, codwyr arian neu wneuthurwyr polisi posibl, mae’r rhestr yn hirfaith!
Mae llawer o sianeli cyfathrebu i ddewis ohonynt ac mae tueddiadau newydd yn dod i’r amlwg bob amser. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon mor ddiweddar â phosibl gydag awgrymiadau a syniadau, felly cadwch lygad.
Os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â’n Tîm Marchnata a Chyfathrebu.
Beth ydych chi’n ceisio ei gyflawni? Dylai eich cyfansoddiad nodi’n glir eich nodau a’ch amcanion fydd yn llywio eich ymagwedd tuag at unrhyw gyhoeddusrwydd.
Pwy ydych chi’n ceisio ei gyrraedd? Bydd cael ffocws clir yn eich helpu i ddiffinio eich cynulleidfa cyn i chi benderfynu pa sianeli cyfathrebu i’w defnyddio. Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth am y prif sianeli sydd ar gael.
Beth yw eich cyllideb? Mae cymorth dylunio, argraffu a hysbysebu i gyd yn costio arian. Y newyddion da yw bod digon o lwyfannau ac offer ar gael i’ch help i roi cyhoeddusrwydd i’ch gweithgareddau yn effeithiol.
Gallai hyn hefyd fod yn gyfle gwych i sicrhau rhyw fath o gymorth mewn nwyddau. Ydych chi’n gwybod am rywun gyda phrofiad dylunio graffeg, marchnata neu gyfathrebu? Gallech ofyn iddynt wirfoddoli rhywfaint o’u hamser i gefnogi eich grŵp.
Os ydych yn chwilio am wirfoddolwyr newydd, cam cyntaf syml yw sicrhau eich bod ar ein Map Grwpiau Cymunedol, sydd yn cyfuno manylion grwpiau ar draws y wlad.
Dyma ble rydym yn cyfeirio unrhyw wirfoddolwyr posibl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned i’r hirdymor.
I roi eich grŵp ar y map, bydd angen i chi gwblhau ffurflen fer, yn rhoi gwybod i ni beth rydych yn ei wneud, pryd rydych yn cwrdd a sut gall pobl gysylltu.
Mae byd y cyfryngau cymdeithasol bob amser yn newid, ac mae sianeli newydd yn mynd a dod. Pa bynnag lwyfan y byddwch yn ei ddewis, bydd angen i chi neilltuo amser i ofalu amdano. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y wybodaeth ar eich proffil yn ddiweddar, yn rhyngweithio gyda’ch dilynwyr ac, yn hanfodol, yn postio’n rheolaidd. Dyma drosolwg o dair o’r sianeli mwyaf poblogaidd a pham y maent mor ddefnyddiol i grwpiau cymunedol:
Facebook yw’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol mwyaf yn y byd o hyd. Mae’n wych ar gyfer dweud straeon a rhannu gwybodaeth am eich grŵp. Mae tudalennau a grwpiau Facebook lleol yn ffordd wych o rannu newyddion a digwyddiadau.
Mae Instagram yn llwyfan gweledol, yn canolbwyntio ar luniau a fideos. Os yw eich grŵp yn cynnwys ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau brwd, gallai Instagram fod yn addas i chi. Mae’n gyfle gwych i ddangos effaith eich gwaith. Meddyliwch am luniau ‘cyn ac ar ôl’, fideos treigl amser a chyfweliadau byr gyda’ch gwirfoddolwyr.
Mae X (Twitter yn flaenorol) yn ymwneud â sgyrsiau amser real. Byddwch yn dod ar draws llawer o newyddiadurwyr, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol ar X – mae hyn yn ddefnyddiol os ydych yn bwriadu cynnal ymgyrch. Gyda therfyn o 280 o nodau, cofiwch sicrhau bod eich neges yn fyr ac yn gryno.
A wyddoch chi fod degau o filoedd o negeseuon y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hanfon bob eiliad? Gall hyn ei gwneud hi’n anodd sefyll allan. Dyma rai awgrymiadau i sicrhau bod pobl yn aros ac yn clicio ar eich negeseuon:
Mae negeseuon sydd yn cynnwys lluniau a fideos bob amser yn perfformio’n well na rhai hebddynt. Ond peidiwch anghofio bod yn rhaid cael caniatâd cyn rhannu delwedd unrhyw un arall.
Gall graffeg y cyfryngau cymdeithasol helpu i ddal sylw hefyd; gwnewch yn siŵr bod unrhyw eiriad mor fyr â chryno â phosibl. Mae offer dylunio am ddim fel Canva yn llawn templedi ar gyfer llwyfannau gwahanol y cyfryngau cymdeithasol.
Mae hashnodau yn gweithredu fel labeli, yn grwpio sgyrsiau gyda’i gilydd, sydd yn galluogi pobl i ddod o hyd i gynnwys tebyg. Mae hashnodau, sydd fwyaf poblogaidd ar X ac Instagram, yn ffordd wych o gysylltu â chynulleidfa ehangach.
Peidiwch anghofio defnyddio ein prif hashnodau:
Trwy ddefnyddio ein hashnodau, gallwch ymuno â’r sgyrsiau sydd yn digwydd rhwng ein dilynwyr a’n cefnogwyr a hybu proffil eich grŵp.
Mae holl sianeli’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r opsiwn i dagio cyfrifon eraill yn eich negeseuon. Trwy wneud hynny, gallwch annog ymgysylltu gwell gyda’ch cynnwys, ac felly cynyddu cyrhaeddiad eich negeseuon, trwy gyswllt â dilynwyr y sianeli hynny.
Mae emojis yn ffordd hawdd o gyfleu teimladau. Bydd cynnwys hyd at dri emoji yn helpu i roi personoliaeth i’ch neges. Ond, mae hefyd yn werth nodi y gall gormod o emojis amherthnasol wneud i ddarllenydd golli diddordeb!
Mae pob sianel yn eich galluogi i weld sut mae eich negeseuon yn perfformio. Trwy edrych yn rheolaidd ar y dadansoddiadau neu’r mewnwelediadau, gallwch ddechrau datblygu dealltwriaeth o bwy yr ydych yn siarad â nhw, pryd y maent ar-lein a pha negeseuon y maent yn eu mwynhau fwyaf.
Dilynwch neu hoffwch grwpiau, unigolion a sefydliadau perthnasol. Cymerwch ysbrydoliaeth o’u cynnwys ac ymgysylltwch â’u negeseuon. Bydd hyn o gymorth wrth ddatblygu eich dilyniant eich hun am y bydd pobl yn cael eu hysbysu am eich sianel(i).
Chwilio am ysbrydoliaeth? Defnyddiodd grŵp cymunedol Pontardawe, Fy Nghwm Gwyrdd, y cyfryngau cymdeithasol i helpu i roi eu Haddewid Cae Gwyrdd ar ben y ffordd.
> Darllenwch stori Fy Nghwm Gwyrdd
Bydd cysylltu eich sianeli cymdeithasol i unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn helpu i gyfeirio traffig i’ch dulliau mwyaf deinamig o gyfathrebu; gallai hyn fod ar daflenni, codau QR ar bosteri neu hyd yn oed datganiadau i’r wasg.
Gall ymddangos yn amlwg, ond mae’r cyfryngau lleol (papurau newydd, gwefannau a sianeli darlledu) eisiau straeon lleol da, neu ongl leol ar stori genedlaethol, yn arbennig un gyda diddordeb dynol.
Mae datganiad i’r wasg sydd wedi ei ysgrifennu’n dda yn ffordd gyflym a chost effeithiol o godi ymwybyddiaeth a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae’r tîm rhagorol yn yr asiantaeth CC yng Nghaerdydd, Working Word, wedi rhoi canllaw byr at ei gilydd ar sut i ysgrifennu datganiadau i’r wasg effeithiol.
> Lawrlwytho’r canllaw
Bydd y rhan fwyaf o bapurau newydd lleol yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer newyddiadurwyr ar eu gwefannau neu dudalennau Facebook. Gallwch hefyd gyflwyno straeon yn uniongyrchol ar lawer o safleoedd newyddion ar-lein, fel In Your Area.
Yn 2024, byddwn yn ychwanegu canllaw pellach a thempledi i’r adran hon, felly cadwch lygad allan!
Mae’r gair llafar yn dal yn offeryn hynod bwerus – yn arbennig wrth ddenu gwirfoddolwyr newydd. Peidiwch â bod ofn gofyn i’ch gwirfoddolwyr presennol, cefnogwyr, ffrindiau a theulu i’ch helpu i roi’r gair ar led. Gallai hyn fod yn alwad rheolaidd i weithredu ar ddiwedd eich digwyddiadau?