Os ydych eisiau cynnal ymgyrchoedd glanhau neu ofalu am fan gwyrdd gyda’ch cyfeillion neu gymdogion, byddem yn argymell dod yn grŵp cymunedol ffurfiol.
Bydd hyn nid yn unig yn rhoi mwy o strwythur ac o gymorth i chi gael y diogelwch yswiriant cywir, ond bydd hefyd yn agor llawer o gyfleoedd eraill i fyny, yn cynnwys cyllid.
Gwyddom y gall deimlo’n frawychus, ond rydym yma i’ch tywys trwy’r broses – o greu cyfansoddiad a chael eich yswirio, i godi arian a chael mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan.
Mae gennym swyddogion prosiect wedi eu lleoli ym mhob awdurdod lleol sydd yn gallu rhoi cyngor i unrhyw un sydd eisiau sefydlu grŵp a gweithio’n annibynnol.
Rydym wedi cynnwys isod rai o’ch cwestiynau mwyaf cyffredin am ddechrau grŵp cymunedol newydd, ond os ydych eisiau mwy o wybodaeth o hyd, peidiwch ag oedi cyn cysylltu.
Nid yw sefydlu cyfansoddiad mor frawychus ag y mae’n swnio – rydym yn addo!
Mae cyfansoddiad, yn syml, yn amlinellu’r hyn yr ydych eisiau ei gyflawni a’r rheolau a’r strwythur yr ydych eisiau ei ddilyn.
Mae’n galluogi pobl a sefydliadau eraill, yn cynnwys noddwyr posibl, i ddeall eich nodau a’ch amcanion. Mae hefyd yn ofyniad wrth gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac wrth agor cyfrif banc.
Os hoffech wneud cais am grantiau, bydd angen cyfrif banc grŵp arnoch. Dyma’r math o gyfrif sydd ar gyfer grwpiau cymunedol a chymdeithasau yn benodol, yn hytrach nag unigolion.
Mae’n syniad da cael mwy nag un llofnodwr ar eich cyfrif (tri yn ddelfrydol) rhag ofn y bydd pobl yn gadael y grŵp neu’n mynd ar wyliau. Mae hefyd yn synhwyrol osgoi cardiau credyd a gorddrafft.
Cysylltwch â’ch swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus! Mae gennym swyddogion prosiect ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Maent wrth law i roi’r holl gymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnoch. Sgroliwch i lawr i ddod o hyd i’ch swyddog prosiect lleol.
Byddwch yn ymuno â rhwydwaith o grwpiau angerddol eraill sydd yn ysbrydoli trwy wneud gwaith anhygoel yn eu hardaloedd lleol. Mae gennym fap o’r grwpiau gweithredol ar ein gwefan, ac rydym hefyd wedi sefydlu grŵp Facebook preifat i annog gwirfoddolwyr i rannu newyddion da, syniadau ac arfer gorau.
Cais i ymuno â Chymuned Cadwch Gymru’n Daclus ar Facebook
Gall noddwyr ofyn i weld eich polisi ar Ddiogelu neu Gyfle Cyfartal. Mae llawer o adnoddau defnyddiol ar gael. Man cychwyn da yw gwefan Knowledge Hub.
Mae sefydliadau arbenigol hefyd ar gael i helpu gydag ymholiadau llywodraethu. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol ar wefan Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Dim o gwbl! Gallwch bob amser fenthyg cyfarpar am ddim o un o’n Hybiau Codi Sbwriel.
Cliciwch y blychau i ddarllen straeon sefydlu Grŵp Cymunedol Cyfarthfa a Cadwch y Fenni’n Daclus. Dysgwch am yr heriau y maent wedi eu goresgyn a chael awgrymiadau ar gyfer gweithio’n gynaliadwy.
Oes gennych chi stori llwyddiant codi arian yr hoffech ei rhannu? Cysylltwch â'r tîm.