Yn ystod tymor yr hydref eleni, rydym yn galw ar wirfoddolwyr i ddod o hyd i’w codwyr sbwriel, gwneud addewid a chymryd rhan yn ein hymgyrch Glanhau Moroedd Cymru, gan dargedu afonydd, dyfrffyrdd a thraethau ar draws Cymru.
Yn dilyn llwyddiant Gwanwyn Glân Cymru, mae’r neges yn syml – ymunwch a gwnewch addewid i godi gymaint o sbwriel ag y gallwch yn ystod yr ymgyrch. Gallwch ddewis codi un bag yn unig, neu gallech osod nod i chi eich hun o gasglu gymaint ag y gallwch.
Eleni, rydym wedi ymuno â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, gan dargedu traethau o amgylch arfordir Cymru a bydd yn cyd-fynd ag Ymgyrch Glanhau Traethau Prydain Fawr, rhaglen glanhau traethau ac arolwg sbwriel mwyaf y DU. Y nod yw casglu data hanfodol fydd yn cael ei ddefnyddio i nodi’r problemau penodol y mae ein moroedd a’n harfordiroedd yn eu hwynebu.
P’un ai eich bod yn godwr sbwriel brwd, neu eich bod yn ymuno â ni am y tro cyntaf, gwnewch addewid i godi bag – neu fwy – heddiw.
Mae sbwriel morol yn fygythiad cynyddol i’n hamgylchedd dyfrol ac arfordirol, gydag 80% yn dod o ffynonellau ar y tir. Mae’r rhan fwyaf o’r sbwriel a geir yn ein dyfrffyrdd yn mynd i mewn i’n cefnforoedd yn y pen draw, felly nid yw’n fater sy’n berthnasol i ardaloedd arfordirol yn unig. Mae angen atal y broblem yn ei ffynhonnell, gan gadw ein traethau a’n dyfrffyrdd yn lân er mwyn i fywyd gwyllt allu ffynnu, ac er mwyn i ni allu gwneud y gorau o’n hamgylchedd hardd.
Os ydych yn unigolyn, yn aelwyd, yn grŵp cymunedol, yn ysgol neu’n fusnes, llenwch y ffurflen syml hon i roi gwybod i ni sut rydych yn cymryd rhan yn Glanhau Moroedd Cymru 2022.
Eich preifatrwydd
Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Chi fydd yn rheoli’r sefyllfa bob amser. Am fwy o wybodaeth ewch i’n Polisi Preifatrwydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Glanhau Moroedd Cymru, cysylltwch â comms@keepwalestidy.cymru
Croeso i #ArFrigYDon – prosiect addysg newydd sydd wedi’i ddylunio i hysbysu pobl am ein planed las ryfeddol a’i hysbrydoli i gymryd camau gweithredu.
Mae ein cefnforoedd yn wynebu llawer o beryglon gan gynnwys llygredd, dinistrio cynefinoedd, rhywogaethau ymledol, a gostyngiad dramatig mewn stociau o bysgod cefnforol a newid hinsawdd byd-eang.
Rydym eisiau sicrhau bod gan athrawon yr holl adnoddau sydd eu hangen i gynyddu dealltwriaeth disgyblion o’r materion hyn.
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Gadwraeth Forol a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi datblygu adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd a fydd yn helpu athrawon i gynnal gweithdai a sesiynau addysgol.
Isod, mae dolenni i wybodaeth gefndirol, cynlluniau gwersi, syniadau codi ymwybyddiaeth ac arweiniad ymarferol ar gyfer cydlynu digwyddiadau a diwrnodau gweithredu.
Ymunwch â ni a byddwch ar frig y don o newid mae ein planed ei angen.
Rydym ni eisiau sicrhau eich bod chi'n cadw'n ddiogel, yn gallu hybu hyn rydych chi'n ei wneud ac yn adrodd yr hyn rydych chi wedi'i ddarganfod. Cliciwch isod i gael yr holl wybodaeth ac adnoddau sydd eu hangen arnoch i gael digwyddiad gwych.
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drefnu digwyddiad diogel.
Adnoddau am ddim i chi roi’r gair ar led am eich gwaith gwych.
Rhowch wybod i ni beth rydych wedi ei gasglu drwy ddefnyddio ein system adrodd cyflym ag hawdd.