Mae cefnogi cymunedau i ofalu am eu hamgylchedd lleol yn ganolog i’r hyn a wnawn.
Yn 2022, fe wnaethom gefnogi 460 o grwpiau cymunedol sydd wedi dangos ymrwymiad anhygoel i neilltuo 35,550 o oriau i gyflawni 2425 o weithgareddau i wella mannau gwyrdd ar draws Cymru.
Am ein bod eisiau helpu i gysylltu gwirfoddolwyr â’u grwpiau lleol, rydym wedi dod â manylion cyswllt grwpiau cymunedol ar draws y wlad ynghyd.
Edrychwch ar y map a chysylltwch i ganfod sut i gymryd rhan!
Ydych chi yn cynnal un neu fwy o grwpiau cymunedol? Ydych chi’n chwilio am fwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan? Llenwch y ffurflen gyflym hon a rhowch eich hyn ar y map!
Mae gennym swyddogion prosiect wedi eu lleoli ym mhob awdurdod lleol sydd yn gallu rhoi cyngor i unrhyw un sydd eisiau sefydlu grŵp a gweithio’n annibynnol.
Rydym ni'n rhoi tawelwch meddwl i wirfoddolwyr ledled Cymru gyda'n Cynllun Yswiriant Grwpiau Cymunedol. Gallwch bellach wneud cais ar-lein – sy’n ei wneud yn gyflymach ac yn haws nag erioed i gael y diogelwch sydd ei angen arnoch.