Rydym eisiau cynorthwyo cymunedau i ofalu am eu hamgylchedd lleol. Rhan fawr o hyn yw rhoi gwirfoddolwyr sy’n datblygu mewn cysylltiad â grwpiau cymunedol yn eu hardal.
Am y tro cyntaf, rydym wedi dod â manylion cyswllt grwpiau cymunedol ar draws y wlad ynghyd. Cliciwch ar un or grwpiau ar y map, cysylltwch a chanfod sut gallwch gymryd rhan.
(Mae’r wybodaeth yn ymddangos yn yr un iaith ag y cafodd ei chofrestru)
Ydych chi yn cynnal un neu fwy o grwpiau cymunedol? Ydych chi’n chwilio am fwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan? Llenwch y ffurflen gyflym hon a rhowch eich hyn ar y map!
Mae gennym swyddogion prosiect wedi eu lleoli ym mhob awdurdod lleol sydd yn gallu rhoi cyngor i unrhyw un sydd eisiau sefydlu grŵp a gweithio’n annibynnol.
Rydym ni'n rhoi tawelwch meddwl i wirfoddolwyr ledled Cymru gyda'n Cynllun Yswiriant Grwpiau Cymunedol. Gallwch bellach wneud cais ar-lein – sy’n ei wneud yn gyflymach ac yn haws nag erioed i gael y diogelwch sydd ei angen arnoch.