Caru Cymru
A A A

Ymunwch â ni: 15 i 31 Mawrth

Y gwanwyn hwn, rydym yn galw arnoch i helpu i ddiogelu’r amgylchedd am y gall gweithredoedd bach ar eich stepen drws wneud gwahaniaeth mawr.

Rydym eisiau ysbrydoli miloedd o #ArwyrSbwriel ar draws Cymru i ddod ynghyd i gasglu a gwaredu sbwriel yn ddiogel o’n strydoedd, mannau gwyrdd a’n traethau.

Mae’r neges yn syml: mae’r amgylchedd yn eiddo i bawb. Ymunwch â ni a gwnewch addewid i godi gymaint o sbwriel ag y gallwch yn ystod yr ymgyrch. Gallech ddewis codi un bag, neu gallech osod nod i chi eich hun i gasglu cymaint ag y gallwch.

Y llynedd, casglodd 7,000 anhygoel o #ArwyrSbwriel fwy na 4,000 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu. Allwn ni wneud hyd yn oed yn well yn 2024? Rydym ni’n credu hynny.

P’un ai eich bod yn godwr sbwriel brwd neu’n ymuno â ni am y tro cyntaf, gwnewch addewid i godi un bag – neu fwy – heddiw.

Pam Gwanwyn Glân?

Mae sbwriel nid yn unig yn costio tua £70 miliwn i’w symud bob blwyddyn yng Nghymru, ond mae hefyd yn cael effaith ddinistriol ar ein bywyd morol a’n bywyd gwyllt. Mae’r RSPCA yn nodi eu bod yn derbyn 14 o alwadau y dydd ar gyfartaledd am anifeiliaid sydd wedi eu heffeithio gan sbwriel, gyda galwadau’n cynyddu’n gyflym yn ystod misoedd yr haf.

Mae codi sbwriel yn ddigwyddiad hwyliog, am ddim hefyd sydd yn gallu bod o fudd i’ch iechyd, eich lles a’ch ymdeimlad o falchder yn eich cymuned.

Mae pawb yn haeddu byw mewn cymuned lle gallant ymfalchïo ynddi ond yn ôl ffigurau’r DU, mae llai na hanner oedolion y DU (43%) ar hyn o bryd yn cytuno eu bod yn ymfalchïo yn eu cymuned.

Y newyddion da yw bod codi sbwriel yn weithred syml y gall unrhyw un ei wneud i wneud gwahaniaeth uniongyrchol a gweladwy i’w hardal.

Galw pob ysgol!

Mae’r Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion yn ôl!

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn credu’n gryf nad oes unrhyw un yn rhy fach i wneud gwahaniaeth mawr. Dyma pam, fel rhan o Gwanwyn Glân Cymru, ein bod yn annog ysgolion i gymryd rhan yn yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion.

Gallant gynnal digwyddiad glanhau (neu sawl digwyddiad glanhau) unrhyw bryd rhwng 15 a 31 Mawrth, gan gasglu cymaint o sbwriel ag y gallant.

Mae adnoddau, syniadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion ar gyfer ysgolion sydd yn cymryd rhan.

Dysgu mwy

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol

Rydym eisiau sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel, yn gallu tynnu sylw at yr hyn yr ydych yn ei wneud ac adrodd yr hyn y byddwch yn ei ganfod. Cliciwch ar y blychau isod i gael mynediad at yr holl wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i gael digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru gwych.

Cynllunio eich digwyddiad glanhau

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drefnu digwyddiad diogel.

Dysgu mwy

Hyrwyddo eich digwyddiad glanhau

Deunyddiau cyhoeddusrwydd am ddim i’ch helpu i dynnu sylw at eich digwyddiad.

Dysgu mwy

Rhannu eich canfyddiadau sbwriel

Defnyddiwch ein ffurflen gyflym a hawdd i ddweud wrthym yr hyn y gwnaethoch ei ddarganfod a faint o sbwriel y gwnaethoch ei gasglu.

Dysgu mwy

Ble mae digwyddiadau glanhau eraill yn digwydd?

Ewch i’r map i weld pryd a ble mae digwyddiadau glanhau eraill yn digwydd.

Mynd i’r map