Ystyried trefnu digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru? Mae hynny’n wych! Nawr, mae’n amser cynllunio.
P’un ai eich bod yn godwr sbwriel rheolaidd neu dyma’r tro cyntaf i chi wneud hynny, dyma’r lle y gallwch gael yr holl gyngor a’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fynd allan a dechrau gwneud gwahaniaeth.
Dylai asesiad risg fod yn ei le a dylid cynnal briff diogelwch cyn pob digwyddiad glanhau.
Mae ein canllawiau codi sbwriel yn rhoi gwybodaeth cam wrth gam ynghylch sut i asesu risgiau, beth i’w gynnwys mewn briffiau diogelwch; a chyngor ar gyfer cadw’n ddiogel gerllaw priffyrdd, ardaloedd arfordirol a dyfrffyrdd. Gallwch hefyd lawrlwytho a chwblhau ein templed asesu risg.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau i sicrhau bod gan bawb sydd yn cymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru yr offer iawn ac yn gwybod beth i’w wneud gyda’r sbwriel y maent yn ei gasglu.
Ble bynnag y byddwch, gallwch ymweld â’n Hybiau Codi Sbwriel i fenthyg cyfarpar am ddim. Ewch i’r map Hyb Codi Sbwriel am oriau agor a manylion cyswllt.
Dewiswch eich ardal o’r rhestr isod i ganfod beth sydd angen i chi ei wneud gyda bagiau o sbwriel ac ailgylchu. Cofiwch, lle y bo’n bosibl, ni ddylid rhoi bagiau llawn mewn biniau cyhoeddus.
Mae gennym ddeunyddiau cyhoeddusrwydd am ddim i’ch helpu i dynnu sylw at eich digwyddiad.
Ewch i’r map i weld pryd a ble mae digwyddiadau glanhau eraill yn digwydd.