Rhowch y gair ar led gydag adnoddau Gwanwyn Glân Cymru sydd am ddim!

Gall digwyddiadau glanhau fod yn ddigwyddiadau cymunedol rhaogorol a gwneud straeon lleol gwych sydd yn haeddu cael sylw.

Rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau am ddim i’ch helpu i roi’r gair ar led gyda’ch dilynwyr, y gymuned ehangach a’r cyfryngau lleol.

Lawrlwythwch adnoddau #GwanwynGlânCymru am ddim

Gallwch bori trwy ein holl bosteri a graffeg y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru trwy fynd i becyn cymorth yr ymgyrch. Cliciwch ar y ddolen, ewch i’r pecyn cymorth a chwiliwch am ‘Gwanwyn Glân Cymru’.

Ac, os hoffech ddweud wrth y cyfryngau lleol am eich digwyddiad glanhau ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan, gallwch hefyd lawrlwytho ein templed datganiad i’r wasg isod.

Pa bynnag gamau yr ydych yn eu cymryd, rhannwch eich lluniau a’ch cynlluniau gyda ni. Tagiwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram gan ddefnyddio #GwanwynGlânCymru.

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni. Ebostiwch y tîm yn springclean@keepwalestidy.cymru

Sut i drefnu digwyddiad diogel

Peidiwch anghofio ymweld â’n tudalen ‘cynllunio eich digwyddiad glanhau’ am wybodaeth hanfodol ar ddiogelwch, offer a chasgliadau.

Dysgu mwy

Ble mae digwyddiadau glanhau eraill yn digwydd?

Ewch i’r map i weld pryd a ble mae digwyddiadau glanhau eraill yn digwydd.

Mynd i’r map