Caru Cymru
A A A

Ymunwch â digwyddiad glanhau

Mae manylion digwyddiadau Gwanwyn Glân Cymru i’w gweld ar y map isod. Mae hyn yn cynnwys manylion digwyddiadau glanhau sydd yn cael eu trefnu gan ein swyddogion prosiect yn ogystal â digwyddiadau agored sydd yn cael eu trefnu gan grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.

Os hoffech ganfod mwy am ddigwyddiad glanhau penodol, cysylltwch â thîm Gwanwyn Glân Cymru a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â threfnydd y digwyddiad. Ebostiwch springclean@keepwalestidy.cymru

Noder, nid yw’r map yma’n diweddaru’n awtomatig, felly byddwch yn amyneddgar wrth i ni brosesu eich cofrestriad.

Mae gwybodaeth am y digwyddiad yn ymddangos yn yr iaith y cafodd ei gofrestru. Ac, wrth gwrs, gall pob digwyddiad newid.