Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn credu’n gryf nad oes unrhyw un yn rhy fach i wneud gwahaniaeth mawr. A, phan fyddwn i gyd yn dod ynghyd, gall y gwahaniaeth mawr hynny fynd yn enfawr!
Os yw pob plentyn sy’n mynychu’r ysgol yng Nghymru yn codi un bag o sbwriel yn unig yn ystod yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion, gallem godi 500,000 anhygoel o fagiau o sbwriel o’n hamgylchedd naturiol.
Gallwch gynnal ddigwyddiad glanhau (neu sawl digwyddiad glanhau) unrhyw bryd rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill, gan gasglu gymaint o sbwriel ag y gallwch. Efallai eich bod eisiau trefnu eich digwyddiadau glanhau yn ystod amser chwarae, amser gwersi, cyn ysgol neu ar ôl ysgol – mae i fyny i chi yn gyfan gwbl.
Rhowch wybod i ni faint o ddisgyblion fydd yn cymryd rhan, am ba hyd, a faint o fagiau y maent yn addo eu casglu trwy lenwi’r ffurflen isod. Rydym yn croesawu meithrinfeydd i ymuno â ni hefyd!
Os ydych yn Ysgol, llenwch y ffurflen syml hon i ddweud wrthym sut rydych yn cymryd rhan yn Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion.
Eich preifatrwydd
Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Chi fydd yn rheoli’r sefyllfa bob amser. Am fwy o wybodaeth ewch i’n Polisi Preifatrwydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gwanwyn Glân Cymru, cysylltwch â springclean@keepwalestidy.cymru
Yma fe gewch syniadau ar gyfer eich disgyblion, ysbrydoliaeth a chyngor ar gyfer eich digwyddiad Glanhau Ysgolion, yn ogystal ag adnoddau i’ch helpu i roi’r gair ar led.
Gwneud ffrindiau. Newid ymddygiad. Magu hyder. Ni allwch amcangyfrif yn rhy isel buddion bod yn rhan o deulu Eco-Sgolion.