Caru Cymru
A A A

Cynllunio a gwneud y gorau o’ch digwyddiad glanhau

P’un ai dyma’r tro cyntaf i’ch ysgol godi sbwriel, neu eich bod yn arwyr sbwriel rheolaidd, gall digwyddiadau glanhau fod yn ddigwyddiadau ysgol rhagorol a gwneud straeon lleol gwych sydd yn haeddu sylw.

Ar y dudalen hon fe gewch syniadau ar gyfer eich disgyblion, ysbrydoliaeth a chyngor ar gyfer eich digwyddiad Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion, yn ogystal ag adnoddau i’ch helpu i roi’r gair ar led.

Diogelwch gyntaf

Diogelwch yw’r peth pwysicaf i’w ystyried wrth gynllunio digwyddiad glanhau.

Rydym wedi creu gwybodaeth cam wrth gam ynghylch sut i asesu risgiau, beth i’w gynnwys mewn briffiau diogelwch; a’r cyngor ar gyfer cadw’n ddiogel gerllaw priffyrdd, ardaloedd arfordirol a dyfrffyrdd.

Mae gannym hefyd arweiniad ynghylch sut i gael gafael ar y cyfarpar cywir ac, os ydych yn meddwl am lanhau y tu allan i dir eich ysgol, mae gwybodaeth hanfodol ynghylch sut i drefnu bod eich sbwriel yn cael ei gasglu.

Canfod mwy

Cynnwys pawb

Mae digwyddiadau glanhau yn hwyl, yn rhoi boddhad ac yn gallu bod yn hwb mawr i les plant; felly rydym yn hoffi annog yr ysgol gyfan i gymryd rhan lle y bo’n bosibl.

Gallech greu rota yn rhoi cyfle i ddosbarth neu grŵp blwyddyn gwahanol ymuno mewn digwyddiad glanhau yn ystod cyfnod yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion. Neu os ydych yn bwriadu cynnal y digwyddiad y tu allan i dir yr ysgol, gallech gynnwys cymuned ehangach yr ysgol, trwy wahodd aelodau eraill o’r teulu.

Rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau am ddim i’ch helpu i roi’r gair ar led. Cliciwch ar y blychau isod i lawrlwytho posteri, graffeg y cyfryngau cymdeithasol a thempledi datganiadau i’r wasg.

Graffeg y cyfryngau cymdeithasol
Poster y gellir ei olygu
Templedi datganiadau i’r wasg
Dewch i ni chwarae bingo sbwriel!
Tystysgrifau

Cyswllt â’r Cwricwlwm

Mae cymryd rhan mewn digwyddiad glanhau yn darparu cyfleoedd gwych ar gyfer dysgu cyd-destunol gyda chysylltiadau â’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae gennym amrywiaeth eang o adnoddau ysgol gynradd ac uwchradd sydd wedi eu dylunio i gyflwyno dysgwyr ifanc i rai o’r materion amgylcheddol pwysicaf tra’n datblygu sgiliau allweddol.

Peidiwch anghofio, mae cymryd rhan yn yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion yn dystiolaeth ragorol i’w defnyddio wrth wneud cais am eich Baner Werdd Eco-Sgolion.

Ychwanegwch at eich Cynllun Gweithredu Eco-Sgolion

Cymryd rhan yn yr Ymgyrch Fawr Glanhau Ysgolion yw’r ychwanegiad perffaith i Gynllun Gweithredu EcoSgolion, felly cofiwch ei gynnwys yn eich un chi.

Gosodwch eich targed: gallai olygu cael gwared ar ardal benodol o sbwriel, treulio ychydig amser yn codi sbwriel, neu’n rhoi cyfle i bob dysgwr gadw eu cymuned yn lân!

Cytunwch ar y manylion: Pwy, Beth, Ble a Phryd?

Ystyriwch sut byddwch yn mesur eich cynnydd: mae cyfrif faint o fagiau a gasglwyd yn ffordd wych o gofnodi eich effaith. Gallech fod eisiau mynd â’r cyfleoedd rhifedd ymhellach a’u gwahanu’n fathau o sbwriel a dadansoddi’r canlyniadau.

Gwerthuswch eich canlyniadau: Fe gewch eich synnu faint, neu am y mathau o sbwriel y byddwch yn dod o hyd iddynt. Trafodwch y wybodaeth hon i’ch helpu i benderfynu beth fyddwch yn ei wneud nesaf.

Lawrlwytho Templed Cynllun Gweithredu Eco-Sgolion

After your clean-up

When the Great Big School Clean is over, it’s time to let us know how successful it was! You can report your results by using our quick and easy online reporting system eCount Cymru. These results can be fed back to the whole school and used as evidence for your Eco-Schools Green Flag.

Mynd i eCyfrif Cymru