Caru Cymru
A A A

Hyrwyddwr

  • Hyrwyddwr y gystadleuaeth yw Cadwch Brydain yn Daclus (“Hyrwyddwr”).
  • Mae’r Hyrwyddwr wedi cofrestru fel Cadwch Brydain yn Daclus. Rhif cofrestru’r elusen: 1071737. Mae wedi cofrestru’n gwmni cyfyngedig drwy warant, a’i rif cofrestru yng Nghymru a Lloegr yw 3496361. Swyddfa gofrestredig: Elizabeth House, The Pier, Wigan, WN3 4EX.

Y Gystadleuaeth

  • Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ysgol neu feithrinfa yn y Deyrnas Unedig sy’n cofrestru digwyddiad glanhau Gwanwyn Glân Cymru ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus (yr “Ymgeisydd”).
  • Gwahoddir pob Ymgeisydd i ymuno â Chynulliad Byw Eco-Sgolion ar gyfer darlleniad o lyfr Sarah Roberts, ‘Somebody Crunched Colin’.
  • Ni chaiff unrhyw weithiwr (nac aelod o’i deulu) sy’n cael ei gyflogi gan un o gwmnïau’r Hyrwyddwr, unrhyw un sy’n darparu unrhyw wobr nac unrhyw gwmni arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth, gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  • Er mwyn cymryd rhan yng nghystadleuaeth yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion, bydd yn rhaid i bob Ymgeisydd gofrestru i gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru fel ysgol ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus, gan ddewis i’w manylion gael eu rhannu â Cadwch Brydain yn Daclus.
  • Bydd modd cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus rhwng 00.01 ar 12 Chwefror a 23.59 ar 21 Ebrill 2022.
  • Ni fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw geisiadau sy’n mynd yn groes i unrhyw gyfreithiau o ran cynnwys, sy’n cynnwys cabledd neu gyfeiriadau sy’n tresmasu ar hawliau trydydd partïon.
  • Ni ddylai ymgeiswyr ymgymryd ag unrhyw ymddygiad a allai ddwyn anfri ar yr Hyrwyddwr neu unrhyw gynnyrch, na bod yn gysylltiedig ag ymddygiad o’r fath.
  • Ni fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau sy’n hwyr, sydd ar goll, sydd wedi’u difrodi, sy’n anghyflawn, sy’n dwyllodrus neu nad ydynt yn dod i law am resymau technegol. Ni fydd ceisiadau anghyflawn na chopïau dyblyg o geisiadau yn gymwys. Nid yw prawf ymgeisio yn brawf o dderbyn.
  • Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw geisiadau heb roi unrhyw reswm na rhybudd ymlaen llaw.

Dewis Enillydd

  • Bydd yr Hyrwyddwr yn dewis yr 8 x Ymgeisydd buddugol (yr “Enillwyr”) ar hap o blith yr holl ysgolion sy’n cofrestru ac sy’n cofnodi manylion dilys ar gyfer casglu sbwriel yn yr ysgol.
  • Mae canlyniadau’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fyddwn yn gohebu â chi yn eu cylch.
  • Rhoddir gwybod i’r Enillwyr cyn 30 Ebrill, a hynny naill ai drwy e-bost neu alwad ffôn gan gynrychiolydd yr Hyrwyddwr.
  • Bydd gan yr Enillwyr 10 diwrnod i ymateb i’r hysbysiad cyntaf i gadarnhau eu bod yn dymuno derbyn y wobr.  Os na fydd yr Enillwyr yn ymateb o fewn 10 diwrnod, bydd enillydd arall yn cael ei ddewis, a bydd y wobr yn cael ei rhoi i’r enillydd arall, a fydd yn cael ei ddewis yn yr un ffordd.
  • Rydych yn cydnabod efallai y bydd yr Hyrwyddwr yn dymuno atgynhyrchu, cyhoeddi, arddangos, trosglwyddo a darlledu eich enw, gan gynnwys ar y cyfryngau, a defnyddio eich enw wrth roi cyhoeddusrwydd i’r gystadleuaeth a’ch enwi chi fel yr enillydd.

Y Wobr

Ar gyfer dechreuwyr ysgol gynradd neu feithrin, bydd 2 x bag nwyddau ar gael yn cynnwys 35 copi wedi’u harwyddo o lyfr Sarah Robert, ‘Somebody Crunched Colin’ a 5 copi wedi’u harwyddo ar gael o ‘Somebody Swallowed Stanley’ a ‘Someone Crunched Colin’ gan Sarah Robert ar gyfer llyfrgell eich ysgol.

Ar gyfer dechreuwyr ysgol uwchradd, bydd 1 x gwasanaeth byw gyda Sarah Roberts i drafod effaith sbwriel ar fywyd gwyllt.

Mae pob gwobr yn amodol ar argaeledd.

Bydd y gwobrau yn cael eu hanfon at yr enillwyr yn y post.

Bydd y wobr gwasanaeth byw yn digwydd ar ddyddiad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr a dim ond o fewn cyfnod o 6 mis yn unig y gellir ei hadbrynu.

Nid yw’r wobr ychwaith yn agored i drafodaeth ac ni chynigir unrhyw arian parod arall.

Cyffredinol

  • Wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae’r Ymgeisydd yn cytuno â’r telerau ac amodau hyn, ac yn glynu wrthynt.
  • Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau hyn unrhyw bryd heb roi rhybudd a chyfleu’r newidiadau i’r Ymgeiswyr drwy ddiweddaru’r telerau hyn ar ei wefan.
  • Ni fydd yr Hyrwyddwr yn atebol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’i rwymedigaethau, os mai rhywbeth sydd y tu hwnt i’w reolaeth resymol sy’n achosi hynny neu sy’n cyfateb i force majeure, a bydd ganddo’r hawl i derfynu’r gystadleuaeth neu ei hatal dros dro o ganlyniad i hynny.
  • Mae ymgeiswyr yn cydnabod nad yw’r gystadleuaeth yn cael ei noddi, na’i hardystio, na’i gweinyddu mewn unrhyw ffordd gan unrhyw ddarparwr cyfryngau cymdeithasol, ac nad yw’n gysylltiedig ag unrhyw ddarparwr o’r fath, ac eich bod chi’n darparu gwybodaeth i’r Hyrwyddwr ac nid i unrhyw drydydd parti.
  • Bydd unrhyw ddata personol a gyflwynir yng nghyswllt y gystadleuaeth yn cael ei brosesu gan Cadwch Gymru’n Daclus, Cadwch Brydain yn Daclus (yr Hyrwyddwr) ac unrhyw drydydd parti a benodir at ddibenion gweinyddu a rheoli’r gystadleuaeth. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn defnyddio unrhyw ddata personol at unrhyw ddiben arall, heb gael caniatâd yr Ymgeisydd. Er mwyn gweld Polisi Preifatrwydd Cadwch Gymru’n Daclus, ewch i: https://keepwalestidy.cymru/cy/polisi-preifatrwydd/, ac ar gyfer Polisi Preifatrwydd Cadwch Brydain yhn Daclus ewch i: www.keepbritaintidy.org/privacy-policy
  • Ni all yr Hyrwyddwr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw ddifrod, colled, rhwymedigaethau, anaf, costau, treuliau na hawliadau a ddaw i ran ymgeiswyr o ganlyniad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon neu wrth dderbyn gwobr.
  • Ni ystyrir y bydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn cyfyngu neu’n eithrio atebolrwydd unrhyw barti am farwolaeth neu anaf personol yn sgil esgeuluster, twyll neu unrhyw rwymedigaeth arall sy’n berthnasol i’r parti hwnnw, nad oes modd ei gyfyngu neu ei eithrio gan y gyfraith.
  • Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr ac yn cael eu dehongli yn unol â’r gyfraith honno.