Caru Cymru
A A A

Mae pobl yn ganolog i Caru Cymru

Rydym eisiau parhau i gefnogi eich gweithgareddau ar lawr gwlad mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn cynnwys ehangu ein rhwydwaith o Hybiau Codi Sbwriel a chefnogi grwpiau cymunedol i weithio’n annibynnol.

Hoffem rymuso pawb gyda’r offer a’r adnoddau cywir er mwyn helpu i wella ein hamgylchedd ar ein stepen drws.

Yn 2022, cymerodd dros 17,000 o’n gwirfoddolwyr ran mewn 446 o ddigwyddiadau Gwanwyn Glân Cymru a Glanhau Moroedd Cymru ar draws y wlad i greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi.

Os ydych yn fusnes, yn gymuned, neu’n unigolyn, mae sawl ffordd y gallwch ymuno â ni yn ein cenhadaeth.

Dewch o hyd i grwpiau cymunedol

Byddwch yn rhan o fudiad #CaruCymru

Wrth gwrs, gall pawb gefnogi mudiad Caru Cymru drwy ddilyn tri cham syml:

1

Cam 1:

Lleihau eich defnydd o blastig tafladwy

2

Cam 2:

Defnyddio offer amldro

3

Cam 3:

Sicrhau eich bod yn cael gwared â’ch gwastraff yn y ffordd gywir, gan ailgylchu cymaint â phosibl