Fel rhan o Caru Cymru, rydym eisiau helpu cymunedau i ofalu am eu hardal leol.
Os ydych eisiau cynnal ymgyrchoedd glanhau neu ofalu am fan gwyrdd gyda’ch cyfeillion neu gymdogion, byddem yn argymell dod yn grŵp cymunedol ffurfiol.
Bydd hyn nid yn unig yn rhoi mwy o strwythur ac o gymorth i chi gael y diogelwch yswiriant cywir, ond bydd hefyd yn agor llawer o gyfleoedd eraill i fyny, yn cynnwys cyllid.
Gwyddom y gall deimlo’n frawychus, ond rydym yma i’ch tywys trwy’r broses – o greu cyfansoddiad a chael eich yswirio, i godi arian a chael mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan.
Mae gennym swyddogion prosiect wedi eu lleoli ym mhob awdurdod lleol sydd yn gallu rhoi cyngor i unrhyw un sydd eisiau sefydlu grŵp a gweithio’n annibynnol.
Os ydych yn dod yn grŵp cyfansoddiadol, gallwch wneud cais am ein cynllun yswiriant grŵp cymunedol, sydd yn rhad ac am ddim am hyd at ddeuddeg mis. Dysgwch fwy am ein cynllun yswiriant grŵp cymunedol
Cysylltwch â’ch swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus! Mae gennym swyddogion prosiect ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Maent wrth law i roi’r holl gymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnoch.
Dod o hyd i’m swyddog prosiect lleol
Byddwch yn ymuno â rhwydwaith o grwpiau angerddol eraill sydd yn ysbrydoli trwy wneud gwaith anhygoel yn eu hardaloedd lleol. Mae gennym fap o’r grwpiau gweithredol ar ein gwefan, ac rydym hefyd wedi sefydlu grŵp Facebook preifat i annog gwirfoddolwyr i rannu newyddion da, syniadau ac arfer gorau.
Cais i ymuno â Chymuned Cadwch Gymru’n Daclus ar Facebook
Oes! Am amser cyfyngedig yn unig, bydd grwpiau yr ydym yn eu helpu i sefydlu cyfansoddiad yn cael pecyn glanhau cychwynnol am ddim. Mae hwn yn cynnwys yr holl gyfarpar codi sbwriel sydd yn hanfodol ar gyfer pum gwirfoddolwr.
Dim o gwbl! Gallwch bob amser fenthyg cyfarpar am ddim o un o’n Hybiau Codi Sbwriel.