Cawsom ein hysbysu yn ddiweddar gan ein brocer bod tîm cydymffurfio’r cwmni yswiriant yn anfodlon gyda strwythur arfaethedig cynllun Cadwch Gymru’n Daclus. Canlyniad hyn yw nad ydym yn gallu parhau gyda’n cynllun presennol.
Mae’n ddrwg calon gen i orfod eich hysbysu heddiw nad ydym wedi gallu dod o hyd i ateb fydd yn bodloni eich anghenion am gost sydd yn is na’r gost o brynu fel grŵp unigol. Mae’n rhaid i ni felly argymell eich bod yn ceisio dod o hyd i yswiriant yn uniongyrchol. Bydd hyn yn eich galluogi i brynu diogelwch sydd yn llai costus, yn cynnig mwy o ddiogelwch ac yn symlach i’w reoli nag y gall Cadwch Gymru’n Daclus ei sicrhau ar eich rhan.
Er y bydd sawl opsiwn ar gael i chi, rydym yn credu y gallai’r cynllun sy’n cael ei gynnig gan www.zurich.co.uk/charity-insurance fod o ddiddordeb arbennig. Os byddwch yn penderfynu dilyn y ddolen uchod, cofiwch sicrhau bod yr hyn y maent yn ei gynnig yn berthnasol ac yn ddigonol ar gyfer eich anghenion. Ni allwn sicrhau ei addasrwydd.
Rydym yn cydnabod bod y newyddion hwn yn siomedig ond gallwn eich sicrhau ein bod eisoes yn ceisio datblygu dewis amgen i’r cynllun gwerthfawr hwn dros y flwyddyn i ddod.
Mae cefnogi a gweithio gyda’n grwpiau cymiunedol dros y blynyddoedd yn rhan greiddiol o’r hyn y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei wneud a’n gobaith yw y gallwn barhau i gydweithio a chyflawni ein gweledigaeth o Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Yn y cyfamser, wrth i’r newid hwn ddigwydd, hoffwn ddweud ‘Diolch o galon’ i chi am y gwaith anhygoel rydych chi’n parhau i’w wneud o un dydd i’r llall. Mae’r data rydych chi’n ei roi i ni yn dangos faint sy’n cael ei gyflawni. Mae’r data yma hefyd yn hanfodol i lywio’r gwaith rydyn ni’n ei wneud fel elusen (felly byddwn wrth ein bodd pe byddech yn parhau i rannu hyn gyda ni mor aml ag y gallwch).
Mae ein swyddogion prosiect bob amser wrth law i helpu felly cofiwch gysylltu â nhw, a chofiwch gadw llygad am ein cyfres newydd o weminarau grŵp cymunedol diddorol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom group.funding@keepwalestidy.cymru