Benthycwch cit am ddim ac edrychwch ar ol eich ardal leol
Ewch i un o Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru a gallwch gael ei fenthyg AM DDIM!
Mae ein rhwydwaith cynyddol o hybiau yn cynnig yr holl gyfarpar sydd ei angen arnoch i gynnal ymgyrch glanhau diogel. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau a chylchynau sbwriel (sydd yn hanfodol i gadw eich bagiau ar agor os oes gwynt!).
Mae oriau agor a manylion cyswllt hybiau ar gael trwy glicio ar y map isod. Noder, yn ystod y cyfnod anarferol hwn, gall oriau agor hybiau newid.
Os oes gennych ddiddordeb yn glanhau eich ardal leol, efallai y byddai gennych ddiddordeb yn dod yn Arwr Sbwriel.
Mae ein ‘benthycwyr’ i gyd yn cael canllawiau iechyd a diogelwch ac mae’n rhaid iddynt lenwi asesiad risg cyflym a llofnodi cytundeb llogi offer codi sbwriel.
Mae’n rhaid i chi hefyd ddychwelyd yr eitemau sydd wedi cael eu llogi erbyn y dyddiad y cytunwyd arno yn eu cyflwr gwreiddiol. Bydd angen talu am unrhyw niwed neu golledion ac mae disgwyl i’r benthycwyr hysbysu’r hyb ynghylch unrhyw ladrad, colled neu niwed cyn gynted â phosibl i leihau’r perygl o amharu ar fenthycwyr eraill.