Caru Cymru
A A A

Dewch i ni gydweithio i ddileu sbwriel a gwastraff!

Dros yr ydychig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi creu a phrofi deunyddiau ymgyrchu ar gyfer amrywiaeth o faterion sbwriel – o faw cŵn i dipio anghyfreithlon, i smygu a sbwriel ar ochr y ffordd. Nawr rydym eisiau i gymunedau gymryd rhan a’n helpu ni i roi’r gair ar led.

Mae’r holl ddeunyddiau ar gael i gymunedau eu haddasu, eu lawrlwytho a’u hargraffu o’n gwefan Pecyn Cymorth Ymgyrch arbennig iawn, mae popeth yn rhad ac am ddim. Y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw eich bod yn defnyddio posteri yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Ewch i wefan Pecyn Cymorth Ymgyrch

Sut i ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Ymgyrch

Mae’n hawdd dod o hyd i’r deunyddiau sydd eu hangen arnoch, ewch i’r Pecyn Cymorth Ymgyrch a hidlwch y canlyniadau gan ddefnyddio’r opsiynau ar yr ochr chwith.

Gallwch hidlo yn ôl:

1.Math o ddeunyddiau: ydych chi’n chwilio am bosteri a graffeg sy’n barod i’w defnyddio? Neu a hoffech chi addasu deunyddiau gyda’ch logo, eich lluniau neu eich lleoliad eich hun?

2. Casgliad: dewiswch y mater sbwriel yr hoffech fynd i’r afael ag ef.

3. Iaith: dewiswch Cymraeg yn unig, Saesneg yn unig neu cwbl ddwyieithog.

4. Cais: ydych chi’n chwilio am lyfrynnau, posteri, arwyddion neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol? Maent i gyd ar gael am ddim.

Byddem wrth ein bodd yn clywed sut yr ydych wedi defnyddio ein pecyn cymorth a’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu! Rhowch wybod i ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Tagiwch ni a defnyddiwch #CaruCymru neu’r ebost comms@keepwalestidy.cymru