Caru Cymru
A A A

Mae strydoedd glan yn bwysig

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, gwyddom fod cael strydoedd glân yn bwysig iawn i bobl.

Mae sbwriel yn niweidio bywyd gwyllt, mae baw cŵn yn peryglu iechyd ac mae graffiti’n gwneud i ni deimlo’n anniogel yn ein cymunedau. Ond er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth, mae angen i ni ddeall y materion hyn.

Felly bob blwyddyn, mae ein staff arbenigol yn arolygu miloedd o strydoedd ym mhob cwr o Gymru.

Trwy ddod â data ynghyd o’r arolygon hyn, gallwn ddatblygu darlun flwyddyn ar ôl blwyddyn ar draws Cymru o gyflwr ein strydoedd. Mae hyn o gymorth i ni ynghyd â Llywodraeth Cymru ac eraill i fonitro effeithiolrwydd ein gwaith a chynllunio sut, trwy gydweithio, y gallwn wneud ein strydoedd yn lanach ac yn fwy diogel.

Os ydych yn chwilio am y data sbwriel strydoedd mwyaf diweddar a dibynadwy ar gyfer Cymru, rydych yn y lle iawn! Ni sy’n creu’r unig fesur cyson a chadarn o ddata sbwriel strydoedd ar gyfer Cymru gyfan.

Datgelodd Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd? fod sbwriel pecynnau bwyd a diod ‘wrth fynd’ wedi eu canfod ar 65% o strydoedd ar draws y wlad yn 2022-23. Darllenwch yr adroddiad llawn.

Darllenwch ein Methodoleg System Reoli ar gyfer Archwilio'r Amgylchedd Leol (LEAMS)