Mae plastig ym mhobman. Mae’n gryf, yn para’n hir ac yn rhad. Mae hyn yn dda ar gyfer rhai cynhyrchion y mae angen iddynt gadw bwyd neu eitemau eraill ond mae ein gorddibyniaeth ar blastigau un defnydd wedi cyfrannu at ein cymdeithas ‘tafladwy’ gyfredol. Defnyddir rhai o’r eitemau hyn am ddim ond ychydig funudau ond nid ydyn nhw wedi diflannu. Dim ond cyfran fach o blastigau sy’n cael eu hailgylchu yn fyd-eang, gyda rhai yn cael eu tirlenwi, tra bod eraill wedi’u gwasgaru i’n priddoedd, ein hafonydd a’n cefnforoedd a’u rhannu’n ronynnau plastig bach o’r enw ‘microplastigau’.
Mae llawer o eitemau plastig yn ysgafn, sy’n golygu eu bod yn hawdd eu cludo gan wynt neu ddŵr i’n draeniau ac o’r fan hon cânt eu cludo gan afonydd i’r arfordir. Plastig yw’r rhan fwyaf o’r sbwriel ar ein traethau ac mae 80% o’r sbwriel ar ein traethau yn dod o’r tir. Mae’r deunydd yn torri i lawr, ond byth yn diflannu, gan greu ‘cefnforoedd plastig’. Yn aml, caiff plastigau eu camgymryd gan anifeiliaid morol ac adar y môr fel bwyd. Mae hyn nid yn unig yn angheuol i’n bywyd gwyllt ond mae hefyd yn golygu bod y deunydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Yn fuan, bydd mwy o blastig na physgod yn y môr.
Er y gall maint yr her ymddangos yn llethol, mae llywodraethau ledled y byd yn dod at ei gilydd i ddatblygu atebion ac mae rhai gweithredoedd bach y gallwn ni fel unigolion eu gwneud sy’n cyfrannu at newid mawr.
Yn ddiweddar bu mwy o ddiddordeb mewn defnyddio deunyddiau eraill fel dewisiadau amgen i blastig fel deunyddiau bioddiraddadwy, er nad hwn yn unig yw’r ateb. Rhaid i atal fod wrth wraidd ein hymdrechion.