Mae ansawdd yr amgylchedd lleol yn bwysig i bawb – nid yw hyn yn ymwneud â sbwriel yn unig, ond mae’n cyfeirio at unrhyw fater y gallech ddod ar ei draws pan fyddwch chi’n cerdded allan o’ch drws ffrynt, o sbwriel i faw cŵn, tipio anghyfreithlon, graffiti a hyd yn oed ansawdd yr aer yr ydych yn ei anadlu ac agosrwydd y man gwyrdd agosaf.
Nid yn unig ydy byw neu weithio mewn amgylchedd lleol gwael yn edrych yn hyll ond mae’n gallu cael effaith enfawr ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Gall effeithio ar faint o fuddsoddiad y mae ardal yn ei ddenu neu lefelau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gall hyd yn oed effeithio ar ddemocratiaeth leol.
Trwy gynyddu ansawdd yr ardaloedd lle’r ydym yn byw ac yn gweithio, gallwn greu Cymru o gymunedau ffyniannus sy’n iach i bobl ac i fywyd gwyllt.