Caru Cymru
A A A

Rydym ni’n dymuno newid ymddygiad pobl yn yr hirdymor

Nid oes unrhyw un yn hoffi gweld sbwriel ar hyd y strydoedd ac amgylcheddau afiach, ond yn anffodus, mae rhai pobl yn dal i niweidio ein hamgylchedd trwy beidio gwaredu eu gwastraff yn gyfrifol.

Drwy atgoffa pobl o’r opsiwn gorau, a gwneud yr opsiwn hwnnw mor hawdd â phosibl, gallwn newid ymddygiad er mwyn cyflawni buddion amgylcheddol yn y tymor hir.

#CaruCymru

Rydym yn adnabyddus am y gwaith yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd gyda’n byddin anhygoel o wirfoddolwyr yn codi sbwriel; ond nid ydym ni’n dymuno canolbwyntio ein hymdrechion ar lanhau yn unig, rydym am atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Fel rhan o Caru Cymru, rydym ni’n gweithio ar draws sectorau a ffiniau siroedd er mwyn cynnal ymgyrchoedd cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â phrosiectau lleol wedi’u targedu.

Dros y misoedd i ddod, byddwn yn rhoi ystod o atebion newydd ac arloesol ar brawf i fynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd, sbwriel bwyd brys a sbwriel yn ymwneud â’r môr, yn gwella ansawdd aer ac yn dileu plastig untro.

Ein gweledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd yn dod yn naturiol i bobl wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref i lanhau ar ôl eu ci, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio.