Llygredd aer yw unrhyw allyriadau o ganlyniad i weithgaredd dynol.
Daw’r llygryddion aer o wahanol ffynonellau a gallant gronni i lefelau gwenwynig a all effeithio’n ddifrifol ar ansawdd ein bywyd a’n hiechyd. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, mae llygredd aer wedi mynd yn llawer uwch na’r hyn a ystyrir yn gyfyngiadau ‘diogel’.
Amcangyfrifir nawr bod llygredd aer yn cyfrannu at 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn – 6% o’r holl farwolaethau.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen i ni ystyried nid yn unig ffynonellau’r llygrwyr ond ein hymddygiad a’n ffordd o fyw ni sy’n cyfrannu at y materion hyn. Ein harferion gwaith a chymudo, ein ffynonellau ynni a’r ffordd yr ydym yn codi ymwybyddiaeth o’r bygythiad anweladwy, ond marwol hwn. Er mwyn cyflawni’r newidiadau hyn, rydym yn croesawu cydweithredu ac ymdrechion ar y cyd ar draws pob sector.