Gadewch olion pawennau yn unig

Mae baw cŵn ar frig rhestr llawer o bobl o bryderon yn ymwneud â phroblemau sy’n cael eu canfod ar y strydoedd. Yn ogystal â’r ffaith ffaith bod baw cŵn yn cario bygiau niweidiol a all arwain at haint, asthma a hyd yn oed ddallineb, gall pob math o fwydod a bacteria fyw yn y pridd ymhell ar ôl i’r baw cŵn bydru.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gallant dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig, sy’n rhoi cyfle iddynt i osgoi erlyniad gan y llys, trwy dalu swm o arian (yn yr achos hwn, am £75). Mae codi baw eich ci yn hawdd, ac nid yw carthion ffres yn heintus. Er bod llawer o finiau baw cŵn o gwmpas, gellir cael gwared â baw cŵn mewn biniau sbwriel cyffredinol. Os nad oes bin gerllaw, dylid ei waredu’n gyfrifol yn ôl gartref.

#BagItBinIt

Ar ddechrau mis Hydref 2021, fe wnaethom ymuno â’n partneriaid Caru Cymru i lansio ymgyrch cenedlaethol baw cŵn.

Yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad, dechreuodd arwyddion, posteri, stensiliau pawennau a sticeri bin ymddangos ar draws y wlad i ‘annog’ pobl i wneud y peth iawn.

Gallwch gymryd rhan yn ein hymgyrch trwy fynd i Becyn Cymorth yr Ymgyrch – siop un stop lle gallwch lawrlwytho ac addasu posteri, sticeri, graffeg cyfryngau cymdeithasol a mwy!

Cael gafael ar adnoddau am ddim