Caru Cymru
A A A

Mae gollwng sbwriel, tipio sbwriel a ffaelu i bigo i fyny ar ôl eich ci yn droseddau y gellir eu cosbi. Gall gorfodaeth chwarae rhan hanfodol wrth gadw ein cymunedau’n lân ac annog ymddygiad cyfrifol.

Mae yna lawer o ddeddfwriaeth a mecanweithiau ar gael i helpu awdurdodau lleol i daclo’r troseddau amgylcheddol hyn, gan gynnwys Hysbysiadau Cosb Benodedig. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i rywun sydd wedi cyflawni trosedd, osgoi erlyniad gan y llys, trwy dalu swm o arian. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wrth i fwy o awdurdodau lleol droi at gwmnïau preifat i helpu gyda gorfodaeth, mae nifer yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyflwynwyd yng Nghymru wedi gweld cynnydd mawr.

Fodd bynnag, mae gorfodaeth ar ei ben ei hun yn aneffeithiol. Dylai ‘gorfodaeth graff’ dargedu materion parhaus a meysydd sy’n peri problemau dros amser drwy nodi a defnyddio’r data sydd ar gael. Mae’n bwysig bod gorfodaeth yn rhan o gynllun ehangach sy’n canolbwyntio ar atal problemau, newid ymddygiad ac addysgu. Ardal lân yw un sy’n rhydd rhag sbwriel, tipio anghyfreithlon a baw cŵn yn y lle cyntaf. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn annog unrhyw gyllid a gynhyrchir gan arferion gorfodi i gael ei fuddsoddi yn ôl yn y gymuned.