Caru Cymru
A A A

Mae’r angen i gael gwared ar gwm cnoi yn syth ar ôl ei ddefnyddio yn golygu ei fod yn eitem sy’n aml yn cael ei ollwng yn anghyfrifol fel sbwriel, gyda staenio gwm cnoi yn bresennol ar bron i dri chwarter o strydoedd Cymru.

Mae glanhau gwm oddi ar strydoedd yn ddrud ac yn llafurus. Yn ôl y gyfraith, caiff gwm cnoi ei ddiffinio fel sbwriel, ond nid oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i lanhau staeniau gwm cnoi. Mae hyn yn golygu bod sawl enghraifft o staeniau gwm cnoi yn parhau am amser hir am fod y cynnyrch synthetig yn gallu cymryd hyd at 5 mlynedd i ddadelfennu.

Mynychwch adnoddau ymgyrch ‘Creu Straeon Nid Sbwriel’ am ddim