Caru Cymru
A A A

Nid sbwriel, tipio anghyfreithlon a baw cŵn yw’r unig broblemau sy’n effeithio ar ein cymunedau. Mae yna amrywiaeth o faterion eraill sy’n cael effaith niweidiol ar bobl a’r amgylchedd.

Mae materion fel fandaliaeth, graffiti a phosteri wedi’u gosod heb ganiatâd i gyd yn ddifrod bwriadol yn yr amgylchedd awyr agored. Yn ogystal â’u heffaith weledol negyddol, gallant ddenu mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud i ni deimlo’n anniogel yn ein cymunedau.

Mewn symiau bach, gall chwyn a deunyddiau naturiol fel pridd, mwd a chwymp dail wedi torri i lawr helpu ein bywyd gwyllt. Ond os ydyn nhw’n cael eu gadael i dyfu, maen nhw’n effeithio ar y gwelededd sydd gennym o ardaloedd o’n cwmpas, gallant ddod yn rhwystr a gallant hefyd trapio sbwriel. Pan fydd deunyddiau naturiol yn cronni, maent yn gwneud i leoedd edrych yn esgeulus, yn berygl llithro i gerddwyr ac yn gallu blocio draeniau a all arwain at lifogydd lleol.