Caru Cymru
A A A

Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn broblem gymhleth a chostus iawn.

Mae hyn oherwydd bod materion iechyd a diogelwch a chostau sylweddol yn gysylltiedig â chlirio sbwriel ar ochr ffyrdd, cilfannau a chyffyrdd. Mae hyn yn ei wneud yn fwy anodd i fynd i’r afael â’r broblem hon ac i lanhau allu digwydd.

Ewch a’ch sbwriel gartref

Rydyn ni’n annog gyrwyr i gadw eu cydwybod a’n ffyrdd yn glir fel rhan o ymgyrch genedlaethol newydd.

Gyda mwy o gerbydau ar ein ffyrdd nag erioed o’r blaen ac arferion bwyta prydau cyflym yn dod yn fwy poblogaidd, mae sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yn broblem gynyddol yng Nghymru. Mae’n achosi niwed i’n hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Mae’n difetha’r golygfeydd hardd i bobl leol ac ymwelwyr, ac mae hefyd yn anodd, yn beryglus ac yn ddrud i’w glirio.

Darllenwch fwy am ein ymgyrch newydd sydd yn annog dreifwyr wrth ddweud ‘Ewch a’ch sbwriel gartref’

How to report roadside litter

Yng Nghymru, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol perthnasol yw cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith ffyrdd ac eithrio cefnffyrdd mawr sydd yn gyfrifoldeb i asiantaethau cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru).

Os ydych chi’n gweld unrhyw sbwriel ar ochr y ffordd, gallwch chi hysbysu eich awdurdod lleol neu’r asiantaeth berthnasol.