Fel arfer mae sbwriel sy’n ymwneud â chyffuriau yn cyfeirio at nodwyddau, chwistrellau a deunyddiau miniog eraill sydd wedi’u taflu. Mae hefyd yn cynnwys eitemau eraill sy’n cael eu gollwng o ganlyniad i gario neu gymryd cyffuriau. Mae’r math hwn o sbwriel yn llai cyffredin nag eitemau sy’n ymwneud â bwyta ac yfed ond mae’n cael ei ddarganfod mewn ardaloedd sydd y tu allan i’r ffordd fel mewn ac o amgylch canol dinasoedd a pharciau.
Yn benodol, gall chwistrellau wedi’u taflu fod yn beryglus iawn oherwydd gallant drosglwyddo heintiau a gludir yn y gwaed fel Hepatitis B & C a HIV. Mae’r firysau yma yn gallu cael eu pasio ymlaen os oes rhywun arall yn cael ei anafu gan y nodwydd. Mae strategaethau Llywodraeth Cymru a’r DU sy’n canolbwyntio ar dargedu a hyrwyddo Gwasanaethau Cyfnewid Nodwyddau wedi lleihau lledaeniad heintiau er bod rhywfaint o risg yn parhau. Daw’r risg o anaf ddim yn unig o nodwyddau sy’n cael eu taflu yn yr amgylchedd y tu allan. Gall anafiadau hefyd ddigwydd os caiff nodwyddau rhydd eu rhoi mewn biniau sbwriel ar y stryd neu os ydyn nhw’n cael eu gadael pan gaiff cartrefi eu clirio.
Fel gydag unrhyw fath arall o sbwriel, mae atal y broblem yn allweddol. Mae gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, rhaglenni cyfnewid nodwyddau, elusennau a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a chynllunwyr trefi yn bwysig i’r gostyngiad strategol yn y defnydd o nodwyddau a’u gwarediad diogel.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i awdurdodau lleol a thirfeddianwyr eraill gadw eu tir yn glir rhag sbwriel. Os bydd rhywun yn rhoi gwybod i’r awdurdod ynghylch sbwriel sy’n ymwneud â chyffuriau, argymhellir eu bod yn ymateb o fewn tair awr.
Os dewch chi o hyd i sbwriel sy’n ymwneud â chyffuriau mewn man cyhoeddus, peidiwch â rhoi eich hun na neb arall mewn perygl. Er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei lanhau, rhowch wybod i’r awdurdod lleol perthnasol amdano – gallwch ddod o hyd iddo yma. Os ydych chi’n dod o hyd i’r sbwriel yn y gogledd, rhowch wybod amdano drwy’r llinell sbwriel cyffuriau neu’r rhif rhadffôn (0808 808 2276).
Os cewch chi eich anafu gan nodwydd sydd wedi ei ddefnyddio, dilynwch y cyngor hwn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.