Daw tua 80% o sbwriel morol o ffynonellau ar y tir a’r 20% sydd yn weddill o ffynonellau cefnfor. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod dros 5 miliwn o ddarnau o blastig yn mynd i mewn i’r cefnforoedd bob dydd o’r tir. Er mwyn mynd i’r afael â sbwriel morol, mae angen i ni edrych ar ein hymddygiad yn ymwneud â sbwriel a gwastraff a deall llwybrau sbwriel i mewn i’n hamgylcheddau dŵr.