Mae tân gwyllt yn achosi tanau a damweiniau bob blwyddyn. Gall y synau uchel a sydyn y maent yn eu creu frawychu anifeiliaid. Gall tân gwyllt fod yn wenwynig, sy’n golygu y gallant fod yn beryglus i’r amgylchedd a llygru’r awyr yr ydym yn ei anadlu.
Unwaith bydd rhywun yn rhyddhau balŵns neu lusernau awyr (a elwir hefyd yn llusernau Tsieineaidd) i’r awyr, nid oes ganddynt unrhyw reolaeth drostynt wedyn a gallant deithio am filltiroedd. Gall y cynnyrch yma achosi llawer o niwed, yn arbennig pan fydd llawer ohonynt yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd. Maent yn aml yn glanio ar dir fferm neu yn y môr lle, gallant ladd anifeiliaid a bywyd gwyllt. Hyd yn oed os ydynt yn glanio ar stryd, byddant yn aros yno am amser hir.
Mae hyd yn oed mwy o beryglon gyda llusernau awyr. Gallant achosi tanau ac maent yn aml yn cael eu camgymryd am ffaglau cyfyngder.
Ym mis Chwefror 2018 fe ddathlon ni bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno gwaharddiadau gwirfoddol ar ollwng llusernau awyr.