Caru Cymru
A A A

Mae math newydd o sbwriel yn bla ar ein strydoedd

Mae’r ymateb i COVID-19, yn cynnwys cyfnodau clo, mesurau cadw pellter cymdeithasol a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE), wedi cael effaith sylweddol ar y defnydd o gynnyrch plastig untro.

Mae masgiau wyneb yn arbennig wedi bod yn orfodol mewn llawer o wledydd trwy gydol y pandemig am eu bod yn cael eu hystyried yn hanfodol i atal lledaeniad y feirws. Er nad yw menig wedi bod yn orfodol, maent hefyd wedi cael eu defnyddio’n helaeth ynghyd â hylif diheintio dwylo a chadachau gwlyb.

Yn anffodus, mae rhywfaint o’r deunydd hwn yn gorffen yn yr amgylchedd lleol. Er mwyn deall mwy am raddfa sbwriel PPE, casglwyd gwybodaeth am nifer y masgiau, menig a PPE arall sydd fel sbwriel ar ein strydoedd.

(Credyd llun: Pentwyn Pickers)

Pa mor eang yw’r broblem?

Mae ein harolygon glendid strydoedd diweddaraf ar draws Cymru yn dangos bod PPE yn fater eang.

  • Cofnodwyd masgiau ar 8% o strydoedd – mae hynny’n rhyw 10,666 o fasgiau sbwriel
  • Cofnodwyd menig ar 2.5% o strydoedd
  • Canfuwyd cadachau gwlyb ar 11% o strydoedd.

Pam mae’n broblem?

Mae’r rhan fwyaf o PPE wedi ei wneud o blastig ac mae amheuaeth ei fod yn ffynhonnell ychwanegol sylweddol o’r microblastigau sydd yn mynd i mewn i’n hamgylchedd.

Yn anffodus, mae PPE sydd wedi ei daflu hefyd yn mynd i mewn i’n hafonydd a’n cefnforoedd, gan ychwanegu at y broblem o sbwriel morol pheryglu anifeiliaid, adar a bywyd gwyllt arall.

Mae masgiau wyneb y gellir eu hailddefnyddio bellach ar gael yn helaeth, ac mae nifer gynyddol o fusnesau wedi datblygu cynlluniau ailgylchu arloesol ar gyfer PPE cyhoeddus ac ar gyfer y rheiny a ddefnyddir mewn lleoliadau meddygol.