Mae’r math hwn o sbwriel yn cynnwys cynwysyddion diodydd yn ogystal ag eitemau fel caeadau a gwellt yfed. Yn wahanol i ffynonellau sbwriel eraill, mae llawer o’r sbwriel diodydd – fel caniau a photeli plastig – yn gallu cael ei ailgylchu. Ond amcangyfrifir bod 38 miliwn o boteli plastig yn mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd yn y DU.
Er bod cyfraddau ailgylchu yng Nghymru wedi gwella’n sylweddol ac ar y targed, rydym yn byw mewn oes pan mae’r gwastraff yr ydym yn ei gynhyrchu’n cael ei ystyried fel rhywbeth cymharol neu gwbl ddi-werth. Mae cynwysyddion diodydd yn un enghraifft o’r adnoddau sy’n cael eu taflu sydd yn cael effaith niweidiol iawn ar ein hamgylchedd lleol, ein dyfrffyrdd, ein hafonydd a’n bywyd gwyllt.
Mae angen i ataliaeth fod yn greiddiol i’n hymdrechion, ac rydym wrth ein bodd gyda photeli a chwpanau amldro ar gyfer ein diodydd. Gallai Cynllun Dychwelyd Ernes hefyd helpu i leihau sbwriel diodydd trwy wobrwyo pobl am ailgylchu wrth fynd a phan fyddant allan.
Mynychwch adnoddau ymgyrch ‘Creu Straeon Nid Sbwriel’ am ddim