Caru Cymru
A A A

Sbwriel ysmygu yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel ar strydoedd Cymru, a bonion sigaréts yw’r eitem fwyaf helaeth o bell ffordd.

Yn ystod arolygon glendid stryd diweddar, canfuwyd sbwriel yn ymwneud ag ysmygu ar 74.6% o’n strydoedd. Dyma hefyd yw’r eitem sy’n cael ei gweld fwyaf ar draethau yn Ewrop.

Mynychwch adnoddau ymgyrch ‘Bonion Taclus’ am ddim

Er bod bonion sigaréts yn fach, yn ôl y gyfraith maen nhw’n dal i gyfri fel sbwriel. Mae eu maint bach yn eu gwneud yn anodd ac yn ddrud i’w glanhau, a hefyd yn golygu eu bod yn cael eu cludo’n hawdd i’n dyfrffyrdd ac i’r arfordir gan wynt a dŵr. Nid yn unig ydyn nhw’n cynnwys gwenwyn sy’n llygru ein dyfroedd, ond mae bywyd gwyllt yn gallu eu camgymryd am fwyd, a all fod yn angheuol. Dydy hidlwr sigaréts ddim yn pydru. Maent wedi’u gwneud allan o blastig felly maen nhw’n aros yn yr amgylchedd am amser maith.

Mae e-sigaréts untro sy’n gynyddol boblogaidd yn cael eu canfod fel sbwriel ar draws Cymru. Mewn rhai ardaloedd, canfuwyd e-sigaréts ar 6% o strydoedd mewn arolygon glendid strydoedd diweddar. Mae’r plastig, y cemegau a’r batris sydd ynddynt yn risg difrifol a gwirioneddol i’n hamgylchedd.