Caru Cymru
A A A

Nid mater o estheteg yn unig yw’r ffordd yr ydym yn dylunio ein strydoedd. Yn yr un modd ag y gall creu llwybrau cerdded a beicio yn ein dinasoedd effeithio ar gludiant pobl ac ymddygiadau cymudo, gallwn hefyd ‘ddylunio’ mewn lleoedd mwy diogel a mwy gofalus sy’n effeithio ar y tueddiad i daflu sbwriel a throseddau amgylcheddol eraill. Mae ein strydoedd yn llawn o wrthrychau fel polion lamp, arwyddion ffordd, blychau post, planwyr, meinciau a chysgodfannau bws. Yn anffodus, yn aml gall y nodweddion hyn fod yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol, taflu sbwriel, graffiti a fandaliaeth a gall eu harwynebau fod yn anodd eu glanhau. Gall gwrthrychau sydd wedi’u cynllunio’n wael neu sydd wedi’u lleoli’n amhriodol ddal sbwriel ac mae rhannau diarffordd ac esgeulus o fannau cyhoeddus yn debygol o ddenu mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae llawer o wahanol fathau o finiau ledled Cymru i’n helpu i gadw ein cymunedau’n lân. Maen nhw’n bwysig oherwydd diffyg biniau yw’r esgus mwyaf cyffredin dros daflu sbwriel. Ond er mwyn bod yn effeithiol, mae angen eu cynnal a’u gwacáu a’u lleoli yn y lle cywir.

Yn anffodus, mae biniau yn ddrud felly mae’n amhosibl eu darparu ym mhob man. Os nad oes biniau o gwmpas, mae angen i ni fynd â’n sbwriel a’n baw cŵn gartref gyda ni i gadw ein cymunedau’n lân.