Nid yw sbwriel sy’n cael ei adael yn anghyfreithlon yn edrych yn dda, ond mae hefyd yn beryglus ac yn ddrud i’w symud.
Rydym yn gweithio â awdurdodau lleol a landlordiaid ar draws Cymru ar ein ymgyrch cenedlaethol newydd i fynd i’r afael â Thipio anghyfreithlon.
Rydym yn sbarduno tenantiaid i wneud y peth iawn gyda’u heitemau cartref diangen. Mae’n haws nag ydych yn ei feddwl, a rhatach na dirwy.
Darganfod ffyrdd hawdd o waredu eich eitemau cartrefol diangen yn ein pecyn gwybodaeth gwastraff.
Cymerwch olwg ar ein ymgyrch trwy ein pecyn ymgyrch.
Tipio anghyfreithlon yw dympio gwastraff ar dir neu mewn dŵr. Mae’n cynnwys hylif yn ogystal â deunydd solet. Gall hyn fod yn berthnasol i wastraff domestig, gwastraff masnachol neu ddiwydiannol, o fagiau du i deiars, matresi i rwbel adeiladu. Gellir rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig i unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon ar raddfa fach. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r troseddwr osgoi erlyniad gan y llys, trwy dalu swm o arian (yn yr achos hwn, am hyd at £ 400). Mae dirwyon o hyd at £50,000 neu hyd yn oed carchariad yn bosib mewn achosion mwy difrifol.
Mae tipio anghyfreithlon yn difetha ein mwynhad o’n trefi a’n cefn gwlad ond gall hefyd lygru’r amgylchedd ac mae’n niweidiol i iechyd pobl ac i fywyd gwyllt. Mae’n tanseilio busnesau gwastraff sy’n gweithredu o fewn y gyfraith. Gall ardaloedd lle mae problemau ddioddef diffyg mewnfuddsoddi. Gall effeithio ar brisiau tai yn ogystal â chadw busnesau ac ymwelwyr i ffwrdd.
Mae gan ddeiliaid tai gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod y gwastraff o’u cartrefi yn cael ei waredu’n briodol. Gellir rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig i ddeiliaid tai o £300 os byddant yn rhoi eu gwastraff i rywun sydd wedyn yn mynd ymlaen i ddympio’r deunydd.
Gwiriwch bob tro fod ganddynt drwydded cludo gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru! www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk/GwirioGwastraff
Mae Cymru wedi bod ar y brig ers amser hir yn y DU o ran ailgylchu ac mae wedi ei graddio’n drydedd yn y byd. Fodd bynnag, mae ein hymchwil wedi canfod nad yw bob amser yn hawdd gwneud y peth iawn wrth waredu eich gwastraff. Dyma ychydig o ffyrdd gallwch chi helpu.
Ffasiwn araf nid ffasiwn cyflym! Gall siopau elusen fod yn ffordd dda o ddod o hyd i ddillad am ffracsiwn o bris rhai newydd.
Gwnewch yn siwr bod gennych y biniau a’r bagiau cywir i ailgylchu cymaint o wastraff â phosibl a lleihau eich bagiau du, hefyd gwnewch nodyn o pryd mae casgliadau eich biniau.
Arbed arian a’r amgylchedd trwy fynd â’ch eitemau cartref y gellir eu trwsio i gaffi trwsio lleol.
Prynwch gwpan coffi amlddefnydd y gallwch ei ailddefnyddio er mwyn lleihau gwastraff untro. Mae sawl caffi bellach yn cynnig gostyngiad hefyd am ddefnyddio cwpanau amlddefnydd.
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ymdrin â’r rhan fwyaf o fathau o dipio anghyfreithlon ar raddfa fach ar dir cyhoeddus. Ond Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol os yw digwyddiadau’n fawr o ran maint, yn ymwneud â throseddau trefniadol, yn cynnwys gwastraff peryglus neu â’r perygl i niweidio iechyd neu achosi difrod amgylcheddol. Cyfrifoldeb tirfeddianwyr yw delio ag unrhyw dipio anghyfreithlon ar dir preifat.
Os gwelwch chi unrhyw achosion cyhoeddus o Dipio Anghyfreithlon, rhowch wybod amdano drwy Taclo Tipio Cymru.
Os gwelwch drosedd gwastraff, gallwch ffonio’r heddlu (di-argyfwng) neu Crimestoppers ar 0800 555 111.