Rydym eisiau i lywodraethau a busnesau ddeall y materion y mae ein cymunedau’n eu hwynebu, a’r effaith sylweddol y mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar draws y wlad.
Y ffordd orau o ddangos hyn yw gyda data – sy’n dangos yn union faint o bobl sy’n cymryd rhan, sawl awr sy’n cael ei neilltuo i ofalu am yr amgylchedd, yr amrywiaeth o weithgareddau sy’n digwydd, a beth sydd yn cael ei ganfod ar ein strydoedd, ein traethau, ac yn ein parciau.
Dyma pam y mae angen i bawb rannu’r hyn y maent wedi bod yn ei wneud trwy eCyfrif Cymru.
Mae eCyfrif Cymru yn ffurflen hawdd i’w defnyddio ar ein gwefan.
Nid oes angen unrhyw fanylion cyfrif na mewngofnodi; mae’r ffurflen yn cymryd dwy funud i’w llenwi, a gellir ei llenwi ar gyfrifiadur neu ddyfais symudol, dim ond cysylltiad â’r rhyngrwyd sydd ei angen arnoch.
Mae wedi cael ei ddatblygu a’i brofi ar y cyd â gwirfoddolwyr i helpu i sicrhau bod y broses mor gyflym a syml â phosibl. Bydd llai o amser yn adrodd, gobeithio, yn golygu y gallwch dreulio mwy o amser yn gofalu am eich amgylchedd lleol.
Rydym yn defnyddio data eCyfrif Cymru i arwain ein gwaith ac i ddangos effaith gwirfoddoli i lywodraethau a busnesau.
Mae ein Map Effaith Gymunedol yn gadael i chi weld y gweithgareddau a gofnodwyd gan Arwyr Sbwriel, grwpiau cymunedol, Hybiau Codi Sbwriel, Ardaloedd Di-sbwriel a phartneriaid eraill.
Byddwn hefyd yn dathlu canlyniadau cyffredinol eCyfrif Cymru yn rheolaidd ar ein sianeli cymdeithasol ac yn y cyfryngau.
Ewch i’r Map Effaith Gymunedol i archwilio ac allforio eich data. Mae’r map yn cynnwys gweithgareddau a gofnodwyd gan bawb ers 2018.
Gallwch ddefnyddio’r data a gasglwyd i gefnogi eich cais eich hun am grant, neu i gael hanes cyson a dibynadwy o’ch gweithgaredd i’w rannu gyda’ch cymuned leol, gwneuthurwyr polisïau a chynllunwyr.
Nid yw Epicollect ar gael mwyach. Gwnaed y newid ar 1 Gorffennaf 2024 ac rydym bellach yn annog pawb i ddefnyddio eCyfrif Cymru.
Rydym wir yn credu bod eCyfrif yn llawer cyflymach a haws i’w ddefnyddio.
Peidiwch â phoeni, nid yw’r data y gwnaethoch ei gyflwyno i Epicollect wedi cael ei ddileu. Mae eich data i gyd nawr ar gael ar y Map Effaith Gymunedol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’n Tîm Data yn data@keepwalestidy.cymru
Gwylio’r fideo ‘sut i’ i gael canllaw cam wrth gam i eCyfrif Cymru.
Siop un stop i wirfoddolwyr yn llawn deunyddiau defnyddiol, dolenni a chyngor.
Ymunwch â’n grŵp Facebook i rannu syniadau ac arfer gorau gydag arwyr gwirfoddoli eraill!