Ni yw Cadwch Gymru’n Daclus – yr elusen sy’n gweithio ledled Cymru i warchod ein hamgylchedd nawr ac gyfer y dyfodol.
Mae gennym weledigaeth gyfunol o Gymru brydferth y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Yn ymarferol, gwyddom fod amgylchedd o ansawdd da yn bwysig i bobl ac y gall y buddion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n iechyd, ein llês, ein cymunedau a’n heconomi.
Ac fel bonws ychwanegol mae’n wŷch i fyd natur hefyd.
Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ailagor, ac mae gennym gannoedd o becynnau gardd am ddim i’w rhoi i grwpiau a sefydliadau cymunedol.
Ers ei lansio yn 2020, mae dros 1,000 o erddi wedi cael eu creu, eu hadfer a’u gwella ar draws Cymru. Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol o bob math a maint wedi cymryd rhan.
Mae’r pecynnau am ddim yn amrywio o brosiectau garddio bach i berllannau cymunedol ac adnewyddu ar raddfa fawr. Mae pob un yn cynnwys planhigion cynhenid, offer a deunyddiau, canllawiau ar gyfer gosod yr ardd, a chymorth ymarferol gan ein swyddogion prosiect arbenigol.
Mae ein gwaith yn amrywio – o weithredu ymarferol ac addysg amgylcheddol, i osod safonau ar gyfer parciau, traethau a pholisi ac ymchwil.
Mudiad newydd yn canolbwyntio ar newid ein hymddygiad, ac atal sbwriel a gwastraff
Addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned
Rhaglenni wedi eu dylunio i adfywio ac adfer canoedd o gynefinoedd ar draws Cymru
Gosod y safon ar gyfer mannau gwyrdd, traethau, marinas yn y DU a thu hwnt
O #2FunudiLanhauStryd i ddiwrnod o weithgareddau wedi eu trefnu – mae digwyddiad i bawb.
Chwiliwch am ddigwyddiad yn eich ardal chi neu edrychwch beth sy’n digwydd ar draws y wlad.
August 3 2023
July 20 2023
July 18 2023
Mae ein gwirfoddolwyr yn anhygoel, bob un o’r 25,000 ohonynt! Yn syml, ni fyddem yn bodoli heb eu angerdd a’u cefnogaeth barhaus.
P’un eich bod yn codi arian neu rhoddi, i gefnogi ni wrth ichi siopau. Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith, cyfarfod â phobl newydd a helpu i wella eich cymuned.