Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.
Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.
Darganfod mwy
Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.
Rhagor o wybodaeth
Drwy noddi un neu fwy o hybiau, gall eich sefydliad wneud gwahaniaeth uniongyrchol, gweladwy i strydoedd, parciau a mannau gwyrdd ar draws Cymru.
Mae ein Pecynnau Enfawr wedi eu cynllunio ar gyfer grwpiau a sefydliadau sydd yn barod i dderbyn prosiect gardd gymunedol uchelgeisiol sydd â gofod gwag enfawr ar gael i’w drawsnewid.
Mae ein Pecynnau Gardd ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd eisiau creu prosiectau ar raddfa fwy. Mae ein dau Becyn Gardd wedi cael eu cynllunio nid yn unig i roi help llaw i natur ond hefyd i fod o fudd i iechyd a lles pobl.