Pobl ifanc heddiw yw gwneuthurwyr polisïau, perchnogion busnes a defnyddwyr yfory.
Bydd rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol nid yn unig yn eu grymuso i weithredu yn eu hysgol neu goleg, ond yn eu galluogi i ddylanwadu ar eraill yn y cartref ac yn y gymuned ehangach.
Mae Cymru Hardd – ein strategaeth ar gyfer 2022-2023 – yn amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol i roi llais i ieuenctid a chefnogi creu gwaddol well i’r wlad ac i’r blaned.
Ydych chi’n gwybod bod bron i hanner miliwn o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ein rhaglenni addysg?
Mae ein tîm addysg yma i gefnogi ysgolion a cholegau ar bob cam o’r eco-daith, gan ddarparu arweiniad arbenigol adnoddau a hyfforddiant.
Mae Eco-Sgolion wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol.
Mae Gohebwyr Ifanc yr Amgylchedd (YRE) yn rhwydwaith o ieuenctid rhyngwladol sydd yn gysylltiedig ag addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Mudiad newydd yn canolbwyntio ar newid ein hymddygiad ac atal sbwriel a gwastraff.
Rydym yn helpu adferiad natur trwy ddiogelu coedwrych, plannu coetir cynhenid, dwys, a chreu gerddi newydd, bioamrywiol.
Codi'r safon ar gyfer mannau gwyrdd, traethau, marinas a thwristiaeth yng Nghymru.